Gwastraff Clinigol

Beth yw Gwastraff Clinigol?

Mae Gwastraff Clinigol Heintus mewn lleoliad domestig yn golygu:

  • gorchuddion neu rwymynnau wedi'u halogi â gwaed
  • nodwyddau, chwistrelli neu eitemau miniog eraill
  • eitemau miniog sy’n gysylltiedig â diabetes
  • gwastraff sy’n gysylltiedig â dialysis

Atgoffir trigolion, oherwydd y risg o anafiadau'n ymwneud â nodwyddau, na ddylid rhoi eitemau o finiau sy'n dal eitemau miniog, yn y casgliad sbwriel arferol o'r cartref.

I drefnu casgliad gwastraff clinigol, cysylltwch â'r Llinell Gymorth Gwastraff Clinigol ar 0300 123 9208 neu'ch meddygfa leol.

Dewch o hyd i’ch meddygfa leol yma.

Diwygiwyd Diwethaf: 04/04/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Llinell Gymorth Gwastraff Clinigol

Ffôn: 0300 123 9208

Ebost: nwssp_hcscontrolhub@wales.nhs.uk

Nôl i’r Brig