Hybiau casglu cynwysyddion ailgylchu
Beth sydd yn yr hybiau?
- Sach Goch
- Bagiau Glas
- Blychau Du
- Sachau i’r Cadi Brown bach
- Cadi Bach gwyrdd gwastraff bwyd i’r gegin
- Cadi Mawr Brown gwastraff bwyd
- Bagiau melyn
Mannau presennol hybiau ailgylchu
Gellir casglu mwyafswm o ddau flwch, cadi neu sach ailgylchu o:
Ydych chi’n cludo blychau ailgylchu?
I drigolion sy’n ddeiliaid bathodyn glas, sy’n cael casgliad â chymorth, neu sy’n wirioneddol ddim yn gallu mynd i’r pedwar hwb oherwydd rhesymau meddygol neu eraill, gellir cludo eitemau atoch chi ar gais.
Gofyn am gynhwysydd ailgylchu
A fydd yr hybiau ar agor pob diwrnod yr wythnos?
Mae gan bob hwb oriau agor gwahanol felly sicrhewch os gwelwch yn dda eich bod yn edrych ar y rhain cyn ymweld.
Pam ydych chi’n lleihau nifer yr hybiau?
Gyda phroblemau ar hyn o bryd gyda chyflenwad cynwysyddion ledled y DU, bydd y dull yma’n gwella sut mae cynwysyddion ar gael trwy sicrhau bod stoc ddigonol yn yr hybiau ar bob adeg, gyda disgwyl cyflenwadau ddwywaith yr wythnos.
Cyn y pandemig, dim ond pedwar hwb oedd yn cadw cynwysyddion ailgylchu.
Cynyddwyd nifer yr hybiau yn ystod pandemig covid er mwyn hwyluso cyrraedd cynwysyddion yn fwy lleol.
Mae adolygiad diweddar o ddosbarthu cynwysyddion ailgylchu wedi canfod fod y system bresennol yn aneffeithlon.
Trwy leihau nifer yr hybiau sy’n cadw cynwysyddion, bydd yn haws sicrhau bod pob hwb yn cael cyflenwad rheolaidd o gynwysyddion.
Pam ydych chi wedi dewis yr hybiau yma?
Mae’r hybiau wedi eu dewis oherwydd eu bod yn cynnig mannau casglu ar hyd a lled y fwrdeistref. Hefyd, mae staff yn yr hybiau yma i helpu i sicrhau bod dosbarthiad y stoc yn cael ei reoli’n effeithiol.
Diwygiwyd Diwethaf: 16/01/2025
Nôl i’r Brig