Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref
Mae'r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn darparu cyfleusterau i waredu ar ystod o ddeunyddiau a gwastraff y gellir eu hailgylchu. Mae'r cyfleusterau hyn ar gael i drigolion Torfaen yn unig ar gyfer gwastraff cyffredinol o’r cartref a’r ardd.
Lleoliad ac Oriau Agor
Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref, Ffordd Panteg, Y Dafarn Newydd
Haf (30 Mawrth 2025 - 25 Hydref 2025)
- Dydd Llun i ddydd Sadwrn - 08:00 i 17.45
- Dydd Sul - 09:00 i 17.45
Gaeaf (27 Hydref 2024 - 29 Mawrth 2025)
- Dydd Llun i ddydd Sul – 10:00 i 15:45
Bydd mynediad olaf i gerbyd ar yr amser cau uchod.
Mae'r safle hwn ar agor bob dydd heblaw am Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan.
Er mwyn helpu trigolion a sicrhau eu bod yn defnyddio’r safle yn gywir, ailddechreuwyd cwrdd a chyfarch yng Nghanolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
Ceir yn ymweld â'r CAGC
- Gall ceir ymweld â'r safle bob dydd
- Gwahanwch y defnyddiau ailgylchadwy o'r deunyddiau na ellir eu hailgylchu gartref fel y gallwch roi'r deunydd ailgylchu yn y biniau cywir pan ymwelwch â'r Safle. Bydd hyn yn gwneud eich ymweliad yn gyflymach ac yn haws
- Byddwch yn barod i giwio y tu allan i’r Ganolfan
Faniau yn ymweld â'r CAGC
- Bydd faniau'n gallu ymweld â'r safle bob dydd rhwng 1.30pm a 2.30pm ar sail bwcio slot amser ymlaen llaw yn unig
- Ni fydd mynediad os nag oes slot wedi'i bwcio ymlaen llaw
- Cost y drwydded yw £10 yr ymweliad. Gallwch wneud cais am drwydded fan/trelar yma neu cysylltwch â Galw Torfaen ar 01495 762200
Cais am drwydded fan/trelar
Beth y gellir ei ailgylchu ar y safle?
- Papur (os yw wedi’i rwygo yna rhowch mewn bag), cardbord, gwydr, caniau a thuniau, dillad, esgidiau, tecstilau, poteli plastig, gwastraff metel fferrus ac anfferrus, pren, batris ceir, nwyddau gwynion ac oergelloedd, offer domestig mawr a bach (offer trydanol ac electronig gwastraff).
- Caiff toriadau glaswellt, gwrychoedd a choed eu derbyn ar gyfer eu compostio hefyd.
- Rydym hefyd yn casglu eitemau fel beiciau y gellir eu hailddefnyddio. Gall yr eitemau hyn gael eu prynu ar y safle, pan fyddant ar gael.
- Caiff rwbel a cherrig eu derbyn i'w hailddefnyddio hefyd, er eu bod wedi'u cyfyngu i feintiau bach yn unig (rhaid i'r deunydd hwn fod mewn bagiau).
Cadwch y llifoedd gwastraff hyn yn lân ac ar wahân i'w gilydd.
Pa ddeunyddiau eraill yn cael eu derbyn?
Paint, teneuwyr, olew car a ddefnyddir, triniaethau cemegol a theiars hefyd yn cael eu derbyn. Sylwch - mae angen cael gwared deunyddiau hyn yn ddiogel, ffoniwch y cyngor i gael rhagor o wybodaeth am sut i ddefnyddio'r cyfleusterau hyn.
Asbestos
Os ydych yn ystyried datgymalu strwythur eich bod yn credu yn cynnwys asbestos, yn y lle cyntaf, cysylltwch â'r tîm gorfodaeth Diogelwch Bwyd ac Iechyd ar 01633 647623, neu am gyngor pellach, ewch i wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.
Fel arall, os ydych yn dymuno i gael gwared ar symiau bach o asbestos yn y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref rhaid i chi gysylltuTorfaen Ffoniwch ar 01495 762200.
Beth na ellir ei ailgylchu ar y safle?
Nid yw "japanese knotweed" a "himalayan Balsam" yn cael eu derbyn yn y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref. Heblaw am fatris, teiars ac olew injan ni all y safle yma dderbyn unrhyw ddarnau cerbydau modur.
Gwastraff crefftau'r cartref/adnewyddu
Nid yw gwastraff crefftau'r cartref/adnewyddu yn cael ei dderbyn yn y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref mewn unrhyw fath o gerbyd (fan, trelar neu gar). Os ydych am gael gwared â'r math hwn o wastraff, dylech:
- Obtain a skip from a private waste management company, or
- Talu costau'r bont bwyso i Viridor yn y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref. Dylai trigolion ffonio Viridor ar 01495 755890 ynghylch y costau
- Defnyddio cwmni preifat sydd wedi'i awdurdodi i gludo gwastraff. Rhaid i'r cwmni roi nodyn trosglwyddo gwastraff i chi sy'n dweud i le mae'r gwastraff yn mynd i gael ei waredu
Caiff gwastraff crefftau'r cartref ei ddiffinio fel gwastraff sy'n cael ei gynhyrchu o ganlyniad i waith adnewyddu mawr neu brosiect crefftau'r cartref yn eich eiddo.
Mae enghreifftiau o'r prosiectau hyn yn cynnwys – adnewyddu eich ystafell ymolchi neu'ch cegin, cloddio eich hardd i osod patio, taro waliau mewnol neu frestyn simnai i lawr. Nid yw'r rhestr hon yn hollgynhwysol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch ag aelod o'r tîm gwastraff cyn i chi fynd i'r safle.
Diwygiwyd Diwethaf: 04/11/2024
Nôl i’r Brig