Compostio

Compostio yw un o'r ffyrdd hawsaf a rhataf i ailgylchu ac mae'n rhywbeth y gall pob un ohonom ei wneud yn ein gardd ein hunain.

Pam compostio?

  1. Mae'n helpu'r amgylchedd lleol
  2. Mae'n lleihau faint o wastraff o'r ardd a'r gegin sy'n mynd i safleoedd tirlenwi
  3. Mae'n arbed arian
  4. Mae'n helpu eich gardd i dyfu'n naturiol

Sut i gompostio

  1. Rhowch eich bin compost ar bridd noeth, rhywle yn eich gardd y mae'n hawdd ei gyrraedd trwy gydol y flwyddyn.
  2. Dylech gymysgu eich deunyddiau gwyrdd a brown yn gyfartal wrth gompostio. Deunyddiau meddal, gwlyb yw deunyddiau gwyrdd, fel toriadau glaswellt a sborion ffrwythau a llysiau. Mae deunyddiau brown yn fwy sych a chaled, fel toriadau gwrych a darnau o gardbord.
  3. Pan fyddwch yn compostio, dylech roi llawer o ddeunyddiau i mewn ar yr un pryd. Torrwch eitemau mawr yn ddarnau llai i helpu â'r broses. Ceisiwch sicrhau bod eich compost yn llaith ond nid yn wlyb – pan fyddwch yn ei wasgu yn eich llaw, dylai gynhyrchu ychydig o ddiferion o ddŵr. Ychwanegwch ddŵr os yw'n rhy sych; gorchuddiwch y compost ac ychwanegwch ddeunydd sych os yw'n rhy wlyb.
  4. Os ydych yn dymuno, gallwch ychwanegu cyflymydd compostio (mae danadl ifanc yn gyflymydd naturiol gwych) i helpu i gyflymu'r broses.
  5. Daliwch ati i ychwanegu deunyddiau, gan gofio corddi'r cynnwys bob yn ail wythnos yn ystod y gwanwyn a'r haf i sicrhau bod aer yn llifo trwodd.
  6. Bydd eich compost yn barod pan fydd yn lliw tywyll ac yn arogleuo fel pridd. Gall hyn gymryd rhwng 6 a 18 mis, gan ddibynnu ar y deunyddiau rydych wedi'u defnyddio ac adeg y flwyddyn.

Beth allwch chi ei gompostio?

  • Toriadau glaswellt
  • Toriadau gwrych 
  • Pilion llysiau
  • Bagiau te
  • Mâl coffi
  • Cardbord a phapur wedi'i rwygo
  • Toriadau ffrwythau

Beth na allwch chi ei gompostio?

  • Cig, pysgod neu gaws (sylwch - gallwch gompostio'r rhain gan ddefnyddio eich cadi brown)
  • Llwch glo
  • Sborion wedi'u coginio (sylwch - gallwch gompostio'r rhain gan ddefnyddio eich cadi brown)
  • Metelau, gwydr neu blastig
  • Clytiau babanod

Biniau Compost am Bris â Chymhorthdal

Os hoffech ddechrau compostio gartref, mae'r Cyngor yn cynnig biniau compost â chymhorthdal. Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 0800 3164454 neu ewch i www.torfaen.getcomposting.com.

Diwygiwyd Diwethaf: 16/01/2025
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Galw Torfaen

Ffôn: 01495 762200

E-bost: waste@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig