Diwrnodau casglu biniau

Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae Cyngor Torfaen wedi casglu dros 5,000,000 o finiau. Mae wedi casglu dros 31,000 tunnell o wastraff, sef dros hanner pwysau Stadiwm y Mileniwm. Mae hyn yn cynnwys gwastraff cyffredinol, gwastraff gwyrdd, gwastraff bwyd, deunyddiau y gellir eu hailgylchu a chardbord.

Ar gyfer yr ardaloedd hynny nad ydynt yn derbyn y gwasanaethau hyn ar hyn o bryd (tyrau fflatiau a chyfadeiladau'r henoed, yn bennaf), rydym yn darparu casgliad wythnosol ar gyfer gwastraff y cartref sy'n cael ei roi yn y bin ar olwynion.

Sicrhewch fod eich sbwriel yn y man casglu erbyn 7:00am ar fore eich casgliad, oni bai y gwnaed trefniadau eithriadol.

Gallwch ddarganfod pa liw bin sy'n cael ei gasglu'r wythnos hon trwy edrych ar y Calendr Casgliadau ar gyfer eich rownd gasglu chi.

Ar ba ddiwrnod caiff fy miniau eu casglu?

Defnyddiwch ein system fapio i ddod o hyd i'ch diwrnod casglu ailgylchu/gwastraff.

Dod o hyd i'ch diwrnod casglu ailgylchu/gwastraff

Rhoi gwybod am fin heb ei gasglu

Os na gafodd eich bin â chlawr porffor ei gasglu, ni fyddwn yn dychwelyd i gasglu heblaw am y rhesymau isod

  • Problemau mynediad oherwydd gwaith ffordd, damweiniau difrifol neu twywydd gwael,fel eira
  • Cofnod fod y bin wedi ei ddifrodi ac ddim yn bosib casglu
  • Casgliad gyda cymorth wedi ei fethu

Ni fydd y Cyngor yn dychwelyd hyd nes y dyddiad arferol nesaf am unrhyw rheswm arall. Os na allwch aros hyd nes bydd y bin â chlawr porffor yn cael ei gasglu nesaf, gallwch fynd a'ch sbwriel i'r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref yn Y Dafarn Newydd.

Mae hyn yn golygu fod rhaid i'r biniau fod yn y man cywir ar yr amser cywir. Sicrhewch bod eich bin â chlawr porffor yn cael ei osod allan cyn 7.00am ar y diwrnod casglu a'i rhoi mewn man lle mae eich tŷ yn cwrdd â'r palmant (neu'r man casglu penodedig)

Os yw unrhyw un o'r casgliadau ailgylchu wedi ei fethu, gadewch i ni a byddwn yn trefnu i'w gasglu cyn gynted â phosibl.

Rhoi gwybod am fin/blwch heb ei gasglu

Trefniadau ar gyfer gwyliau banc

Yn ystod gwyliau, bydd unrhyw newidiadau i'r casgliadau sbwriel trefnedig yn cael eu cyhoeddi ar y wefan hon ac mewn hysbysiadau yn y wasg leol.

Tywydd garw

Yn ystod tywydd garw, efallai y bydd problemau mynediad i'n cerbydau yn amharu ar y gwasanaeth. Os bydd yn amharu ar y gwasanaeth, byddwch yn amyneddgar gan y byddwn yn dal i fyny erbyn diwedd yr wythnos, fel arfer. Os bydd y tywydd garw'n para dros wythnos ac/neu nid ydym yn gallu casglu'r wythnos honno, byddwn yn rhoi gwybod i drigolion am drefniadau amgen trwy'r wefan hon. 

Diwygiwyd Diwethaf: 16/01/2025
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Galw Torfaen

Ffôn: 01495 762200

E-bost: waste@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig