Llyfrgell Cwmbrân
Cyfeiriad:
Llyfrgell Cwmbrân
Tŷ Gwent
Sgwâr Gwent
Cwmbrân
NP44 1XQ
Ffôn : 01633 647676
Ebost: cwmbran.library@torfaen.gov.uk
Oriau Agor:
Oriau Agor:
Dydd | Oriau Agor |
Llun |
09:00 - 17:30 |
Mawrth |
09:00 - 17:30 |
Mercher |
Ar Gau |
Iau |
08:45 - 19:00 |
Gwener |
08:45 - 18:00 |
Sadwrn |
08:45 - 13:00 |
Cyfleusterau sydd ar gael:
- Mynedfa i'r anabl
- Toiled i'r anabl
- Man i Newid Babanod
Adnewyddu Llyfrgell Cwmbrân
O ddydd Llun 24 Chwefror 2025, fe fydd Llyfrgell Cwmbrân ar gau am tua phedair wythnos ar gyfer gwaith ailwampio.
Gallwch weld y cynlluniau neu fynd i Lyfrgell Cwmbrân, ar Sgwâr Gwent.
Gallwch gadw ar flaen y prosiect trwy ddilyn Torfaen Libraries ar Facebook, Instagram ac X
Mae'r gwaith yn cael ei ariannu gan Raglen Grant Cyfalaf Trawsnewid Llywodraeth Cymru a Chyngor Torfaen.
Benthyg llyfrau
Bydd cwsmeriaid yn gallu benthyg 20 llyfr ychwanegol o Lyfrgell Cwmbrân cyn y dyddiad y bydd yn cau. Fyddwch chi ddim yn gorfod dychwelyd unrhyw lyfrau sy'n cael eu benthyg ar ôl dydd Llun 3 Chwefror, tan ar ôl i'r llyfrgell ailagor.
Adnewyddu eich eitemau llyfrgell
Bydd Llyfrgell Pont-y-pŵl ar agor bob dydd Llun, rhwng 9am a 5pm, tra bod Llyfrgell Cwmbrân ar gau.
Gallwch gael gafael ar lyfrau digidol, llyfrau llafar, papurau newydd a chylchgronau am ddim trwy danysgrifio i Borrowbox a PressReader. Rhagor o wybodaeth am adnoddau ar-lein.
Ymunwch â'r Gwasanaeth Llyfrgelloedd
Gwasanaeth Cais a Chasglu
Bydd gwasanaeth Cais a Chasglu cyfyngedig yn Llyfrgell Cwmbrân.
Gallwch hefyd wneud cais a chasglu llyfrau a llyfrau llafar o lyfrgelloedd Pont-y-pŵl a Blaenafon.
Gwasanaeth Llyfrgell yn y Cartref
Bydd ein gwasanaeth dosbarthu am ddim ar gyfer llyfrau a llyfrau llafar yn parhau fel arfer. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Llyfrgell Cwmbrân trwy cwmbran.library@torfaen.gov.uk neu ffoniwch 01633 647676.
Cymorth TG
Gallwch drefnu sesiwn ar gyfrifiadur yn llyfrgelloedd Pont-y-pŵl a Blaenafon. Sut i drefnu sesiwn ar gyfrifiadur.
Bydd sesiynau galw heibio ar gael yn Llyfrgell Pont-y-pŵl bob dydd Gwener, rhwng 2pm a 4pm, ac yn Llyfrgell Blaenafon bob dydd Mercher, rhwng 2pm a 4pm.
Mae WiFi ac argraffu o bell ar gael yn llyfrgelloedd Pont-y-pŵl a Blaenafon.
Plant a Phobl Ifanc
Cynhelir y sesiynau canlynol yn Nhŷ Gwent, yng Nghwmbrân:
- Sesiwn Stori a Chrefft Hanner Tymor i’r Plant: Dydd Mawrth 25 Chwefror a Dydd Iau 27 Chwefror, 10.30-11.30am. (Rhaid cadw’ch lle)
- Amser Rhigwm: Dydd Gwener 7 Mawrth, Dydd Gwener 14 Mawrth, a Dydd Gwener 21 Mawrth, 10.00-10.30am. (Galwch heibio)
- Knit & Natter: Dydd Iau 27 Chwefror a Dydd Iau 13 Mawrth, 2.00-4.00pm. (Galwch heibio)
- Stori a Chrefft i Blant Dan 5: Dydd Llun 3 Mawrth, Dydd Llun 10 Mawrth, a Dydd Llun 17 Mawrth, 10.00-10.45am. (Galwch heibio)
- Sesiwn Lego: Dydd Mawrth 25 Chwefror a Dydd Mawrth 11 Mawrth, 4.00-5.00pm. (Rhaid cadw’ch lle)
Gofal Cwsmeriaid
Byddwch yn gallu trefnu apwyntiad yn siop sgiliau a swyddi Torfaen yn Gweithio, Monmouth Walk, Cwmbrân, bob dydd Iau a dydd Gwener. I wneud apwyntiad, ffoniwch 01495 762200.
Bydd yr oriau agor yn cael eu hymestyn yn swyddfa arian Gofal Cwsmeriaid yn y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, i gynnwys dydd Iau a dydd Gwener.
Hwb Ailgylchu
Bydd eitemau ailgylchu ar gael o Theatr Congress.
Gwasanaethau eraill
Ar gyfer Cyngor ar Bopeth Torfaen, ffoniwch â 01633 876121
Bydd Grŵp Dementia Forget Me Not Fridays yn cwrdd yng Nghanolfan Pobl Ifanc Cwmbrân bob dydd Gwener rhwng 1pm a 3pm.
Ar gyfer trefniadau Hwb Dementia Torfaen, cysylltwch ag Erin Roche ar 01495 766190 neu 07989 725610.
Diwygiwyd Diwethaf: 29/01/2025
Nôl i’r Brig