Adnoddau Ar-lein rhad ac am ddim
Mae'r rhan hon o'r wefan yn rhoi gwybodaeth i chi am fynediad at nifer o wasanaethau ar-lein allanol.
e-lyfrau, e-lyfrau llafar, e-gylchgronau ac e-bapurau newydd
Mae Llyfrgelloedd Torfaen yn cynnig e-lyfrau, e-lyfrau llafar, e-gylchgronau ac e-bapurau newydd i’w lawr lwytho AM DDIM ar eich tabled, smartphone, gliniadur neu ben-bwrdd. Mae'r adnoddau hyn yn gweithio yn union fel benthyciadau arferol y llyfrgell ond maent yn dychwelyd eu hunain yn awtomatig felly nid oes unrhyw daliadau hwyr. Y cyfan sydd ei angen arnoch yw cerdyn llyfrgell dilys a'r ap cywir ar gyfer eich dyfais.
e-lyfrau ac e-lyfrau llafar
Mae gwasanaeth BorrowBox yn darparu ystod eang o e-lyfrau ac e-lyfrau llafar yn Gymraeg a Saesneg. Mae llyfrau ffuglen a ffeithiol ar gael i oedolion a phlant. Gallwch lawr lwytho hyd at 10 e-lyfr a 10 e-lyfr llafar ar unrhyw adeg am gyfnod benthyg o 21 diwrnod.
e- bapurau newydd
Mae gwasanaeth BorrowBox hefyd yn cynnig ystod eang o e-bapurau newydd, yn cynnwys teitlau rhanbarthol a chenedlaethol. Mae ôl-gopïau ar gael a gall cwsmeriaid danysgrifio i dderbyn y rhifynnau nesaf.
Gallwch ddefnyddio BorrowBox drwy ap ar eich dyfais symudol (ar gael ar gyfer dyfeisiau Apple, Android ac Amazon) neu drwy Wefan BorrowBox Torfaen.
Gallwch lawr lwytho’r ap o App Store neu Google Play Store. Darllenwch canllaw BorrowBox i gael help i osod yr ap ar ddyfeisiau Amazon Kindle Fire.
e-Gylchgronau
Dros 1000 o gylchgronau i ddewis o'u plith yn cwmpasu amrywiaeth eang o bynciau a diddordebau. Nid oes cyfyngiad ar y nifer y gallwch eu lawrlwytho, a gallwch gael mynediad i ôl gopïau hefyd. Lawr lwythwch 24/7 yn uniongyrchol i’ch dyfais symudol drwy ap PressReader neu i’ch cyfrifiadur neu Mac drwy wefan PressReader.
Os oes angen help arnoch i gael hyd i unrhyw rhai o’r adnoddau hyn, beth am alw i mewn i’n sesiynau TG:
- Llyfrgell Blaenafon
- Bob dydd Mercher - 14:00 - 16:00
- Llyfrgell Cwmbrân
- Bob dydd Mawrth - 14:00 - 15:30
- Bob dydd Iau - 10:00 - 12:00 a 14:30 - 16:30
- Llyfrgell Pont-y-pŵl
- Bob dydd Mawrth - 10:00 - 12:00
Ymchwil
Mynediad i Ymchwil - rhydd fynediad am ddim i ystod eang o erthyglau academaidd ac ymchwil mewn llyfrgelloedd cyhoeddus ar draws y DU. Ymhlith y pynciau mae celf, pensaernïaeth, busnes, peirianneg, hanes, ieithoedd, gwleidyddiaeth, athroniaeth, mathemateg a’r gwyddorau, gyda thua 15miliwn + o erthyglau eisoes ar gael. (Gellir eu cyrchu trwy gyfrifiaduron personol â chysylltiad diwifr yn adeiladau’r llyfrgelloedd yn unig).
Find My Past ac Llinach - Dros 500 o deitlau poblogaidd i ddewis o’u plith yn cynnwys Avengers, Star Trek a Transformers. Llawr lwythwch 24/7 yn uniongyrchol i’ch e-Ddarllenydd, tabled, ffôn clyfar, gliniadur, cyfrifiadur personol neu MAC.
Which? Ar-lein - Canllawiau prynu ac adolygu, y cylchgrawn poblogaidd i ddefnyddwyr ar lein. Mae’r adnodd hon ar gael mewn Llyfrgelloedd yn unig. Gofynnwch i aelod o staff i’ch mewngofnodi.
Byw a Dysgu
Theory Test Pro - Mae Theory Test Pro yn ddynwarediad ar-lein realistig o brofion theori gyrru'r DU i bob categori o gerbydau. Mae'n cynnwys yr holl gwestiynau swyddogol sydd yn y prawf wedi eu trwyddedu gan y DSA, y bobl sy'n gosod y profion.
Bywyd yn y DU yw’r canllaw cynhwysfawr i newydd-ddyfodiaid i’r DU. Mae’n trafod arferion, crefydd, teithio a chludiant cyhoeddus, y GIG, ennill bywoliaeth a budd-daliadau.
Cysylltiadau Defnyddiol
Llyfrgell Genedlaethol Cymru - Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnig ystod eang o adnoddau electronig tanysgrifedig, yn amrywio o gylchgronnau ysgolheigaidd i wyddoniaduron a phapurau newydd.
Y Brifysgol Agored- Mae OpenLearn, y Brifysgol Agored yn anelu i chwalu'r rhwystrau i addysg drwy gyrraedd miliynau o ddysgwyr o gwmpas y byd, gan ddarparu adnoddau addysgol am ddim ac yn gwahodd pawb i flasu cyrsiau y mae eu myfyrwyr cofrestredig yn eu dilyn - am ddim! Gyda dros 650 o gyrsiau am ddim, wedi eu gwasgaru ar draws amrywiaeth o feysydd pwnc, gobeithiwn y byddwch yn dod o hyd rhywbeth sydd o ddiddordeb i chi.
Llyfrgelloedd Cymru - Dyma eich porth un stop ar gyfer Llyfrgelloedd Cymru - gallwch gael gwybod ynghylch beth sy'n digwydd mewn llyfrgelloedd, chwilio am lyfrau, ymuno ar-lein, dod o hyd i'ch llyfrgell agosaf, holi cwestiynau anodd, darllen adolygiadau llyfrau, a llawer mwy.
Diwygiwyd Diwethaf: 13/12/2024
Nôl i’r Brig