Dydych chi byth yn rhy ifanc i ymuno â llyfrgell. Mae llyfrgelloedd yn estyn croeso cynnes i fabis a phlant bach
Mae plant sy'n gwrando ar storïau yn dysgu llawer iawn o eiriau a brawddegau newydd. Hefyd, mae darllen yn ffordd wych o rannu amser gyda'ch gilydd ac mae'n hwyl!
Darparu llyfrau hunangymorth i blant a phobl ifanc i'w helpu i ymdrin â materion emosiynol a rhoi arweiniad ychwanegol iddynt
Cysylltwch â'ch llyfrgell leol i gael gwybodaeth am grwpiau darllen, digwyddiadau arbennig a gweithgareddau stori a chrefft yn ystod y gwyliau
Mae Dechrau Da yn rhaglen genedlaethol i annog teuluoedd i ymweld â'r llyfrgell a rhannu'r pleser o ddarllen ac edrych ar lyfrau gyda babis a phlant bach
Mae gan bob llyfrgell adran llachar a chroesawgar i blant gyda llyfrau stori i bob oedran a llyfrau gwybodaeth i helpu gyda gwaith cartref a hamdden
Mae pob llyfrgell yn cynnig cymorth gwaith cartref a darparu amgylchedd diogel lle gall plant gwrdd â ffrindiau a defnyddio adnoddau'r llyfrgell i'w helpu gyda'u hastudiaethau
Mae Her Ddarllen yr Haf yn cael ei chynnal mewn llyfrgelloedd bob blwyddyn yn ystod gwyliau'r haf