Cymorth Gyda Gwaith Cartref
Mae holl lyfrgelloedd Torfaen yn cynnig cymorth gwaith cartref ac yn darparu amgylchedd diogel a chyfforddus lle gall plant gwrdd â ffrindiau a defnyddio adnoddau'r llyfrgell i'w helpu gyda'u hastudiaethau. 
Mae mynediad i'r rhyngrwyd, cyfleusterau argraffu a llungopïau ar gael yn rhad ac am ddim, yn ogystal ag ystod eang o lyfrau gwybodaeth a man astudio. 
Mae staff y llyfrgell wrth law i gynnig cyngor ac arweiniad lle bo angen. Ni fyddwn yn gwneud eich gwaith cartref drosoch, ond byddwn yn barod i'ch helpu i wneud eich gorau!
 Diwygiwyd Diwethaf: 01/02/2022 
 Nôl i’r Brig