Blwch Du

Pa mor aml mae'r blwch du yn cael ei gasglu?

Mae’r blwch du yn cael ei gasglu bob wythnos.

Beth sy'n mynd yn y blwch du?

Ie, os gwelwch yn dda

  • Gwydr
    • Poteli diodydd
    • Jariau
    • Poteli meddyginiaeth a nwyddau’r ystafell ymolchi
  • Papur
    • Llythyrau
    • Amlenni
    • Cylchgronau
    • Papurau newydd
    • Llyfrynnau a chatalogau
    • Papur o’r argraffydd
    • Ychydig o bapur wedi’i rwygo
  • Batris y cartref
    • Batris AAA, AA, B, C, D, DD a 9V
  • Tecstilau
    • Dillad oedolion a phlant
    • Esgidiau
    • Tywelion
    • Cynfasau gwely

Dim diolch

  • Gwydrau yfed
  • Fasys
  • Ffoil
  • Poteli farnais ewinedd
  • Offer coginio gwydr, fel Pyrex
  • Platiau popty-ping
  • Bylbiau golau
  • Drychau neu wydr ffenestri
  • Cerameg neu lestri
  • Papur cegin, tywelion papur neuhancesi papur
  • Papur sydd wedi’i halogi gyda bwyd,olew, saim neu baent
  • Papur lapio
  • Papur brown neu lwyd (gweler y bag glas)
  • Papurau gludiog fel nodiadau Post-it, labeli gludiog neu dâp papur
  • Cardiau crafu
  • Papur wal
  • Papur gwlyb o unrhyw fath
  • Nodwyddau
  • Batris ‘botwm’ ïon lithiwm, fel y rhaia ddefnyddir mewn cyfrifianellau,cymhorthion clyw neu watsys
  • E-sigaréts neu fêps
  • Batris y gellir eu gwefru o liniaduron,ffonau symudol, offer pŵer neusugnwyr llwch
  • Batris car
  • Teclynnau gwefru batris
  • Eitemau trydanol mawr neu fach
  • Gobenyddion
  • Sachau cysgu
  • Tu mewn i glustogau
  • Carpedi
  • Cewynnau (gweler bagiau melyn)

Awgrymiadau

  • Rhowch label ar eich blwch
  • Golchwch a gwasgwch yr eitemau er mwyn cael mwy i mewn, ac i gadw’r blwch yn lân
  • Nawr bod y bagiau cardbord glas yn cael eu casglu'n wythnosol gellir defnyddio’r rhain i'w gosod ar ben y papur y tu mewn i focsys du i gadw’r papur yn sych

Ar ba ddiwrnod caiff fy mlwch ei gasglu?

Defnyddiwch ein system fapio i ddod o hyd i’ch diwrnod casglu gwastraff/ailgylchu.

Bin/blwch heb ei gasglu

Os oedd eich blwch yn y man casglu erbyn 7.00am ar y diwrnod casglu, ond ni chafodd ei wacáu, rhowch wybod i ni ar unwaith drwy lenwi’r ffurflen i rhoi gwybod am fin/blwch heb ei gasglu a byddwn y trefnu i’w gasglu cyn gynted â phosibl.

Roi gwybod am gasgliad a fethwyd

Mae gen i ormod o eitemau ailgylchu i’w rhoi yn y blwch du, beth alla i wneud?

Gallwch ymweld ag un o'n hybiau casglu cynwysyddion ailgylchu sy’n cadw stoc o flychau ailgylchu, bagiau, cadis a bagiau cadis os oes angen mwy arnoch. Gellir casglu uchafswm o ddau flwch ailgylchu, cadis neu fagiau ailgylchu bob ymweliad.

Os ydych chi'n ddeiliad bathodyn glas, yn derbyn cymorth gyda chasgliadau, neu’n methu ymweld â’r hybiau am resymau meddygol, neu unrhyw reswm arall, gellir dosbarthu’r eitemau ar gais.

Gofyn am gynhwysydd ailgylchu

Beth sy'n digwydd i'm hailgylchu?

Caiff papur ei ddefnyddio mewn papurau newydd, caiff plastig ei droi'n ddefnydd cynfasau a pheipiau, gall tuniau a chaniau fynd tuag at bopeth o geir i systemau bleindiau rholer. Caiff gwydr ei brosesu'n boteli gwydr a chaiff tecstilau eu didoli a'u gwerthu fel dillad yn y DU a thramor. Caiff gweddill y tecstilau eu defnyddio ar gyfer clytiau glanhau a deunydd gwrthsain.

I ble mae fy eitemau ailgylchu yn mynd?

Fe gewch wybod i ble mae eich eitemau ailgylchu yn mynd drwy glicio ar Fy Ailgylchu Cymru.

Diwygiwyd Diwethaf: 16/01/2025
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Galw Torfaen

Ffôn: 01495 762200

E-bost: waste@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig