Bin Gwyrdd
Pa mor aml mae'r bin gwyrdd yn cael ei wacáu?
Mae'r bin gwyrdd ar gyfer gwastraff gwyrdd o’r ardd yn cael ei wacáu bob pythefnos (Mawrth i Dachwedd).
Beth sy'n mynd yn y bin gwyrdd ar olwynion?
Ie, os gwelwch yn dda
- Gwastraff gardd
- Toriadau glaswellt
- Dail
- Toriadau clawdd a brigau bach
- Planhigion a blodau marw
- Gwair, gwellt neu naddion pren ar ôl cwningod, moch cwta, anifeiliaid anwes bach sy’n llysysyddion
Dim diolch
- Gwastraff cyffredinol
- Pridd, cerrig, rwbel neu foncyffion pren
- Chwyn ymledol, fel clymog Japan
- Baw anifeiliaid
- Unrhyw ddodrefn gardd, boed blastig neu bren
- Darnau mawr o bren
- Gwastraff bwyd (defnyddiwch eich cadi gwyrdd a brown)
Ni fyddwn yn casglu'ch bin gwyrdd os bydd yn cynnwys unrhyw sbwriel sydd wedi'i restru uchod. Tynnwch y sbwriel a'i roi yn eich bin â chlawr porffor.
Pa ddiwrnod fydd fy ngwastraff gwyrdd o’r ardd yn cael ei gasglu?
Defnyddiwch ein system mapio i gael gwybod eich diwrnod casglu gwastraff/ailgylchu.
Casgliadau a fethir
Os oedd eich bin yn y man casglu erbyn 7.00am ar y diwrnod casglu, ond ni chafodd ei wacáu, rhowch wybod i ni ar unwaith drwy lenwi’r ffurflen i rhoi gwybod am gasgliad a fethwyd a byddwn y trefnu i’w gasglu cyn gynted â phosibl
Roi gwybod am gasgliad a fethwyd
Angen bin gwyrdd newydd?
Gofyn am fin gwyrdd newydd yma.
Gofyn am fin gwyrdd newydd
Beth sy’n digwydd i’r gwastraff gwyrdd o’r ardd?
Bydd eich gwastraff o’r ardd yn cael ei gludo i gyfleuster sy’n ei droi’n gompost ar gyfer y byd amaethyddiaeth.
I ble mae fy ngwastraff gwyrdd o’r ardd yn mynd?
Fe gewch wybod i ble mae eich gwastraff gwyrdd o’r ardd yn mynd drwy glicio ar Fy Ailgylchu Cymru
Diwygiwyd Diwethaf: 16/01/2025
Nôl i’r Brig