Bag Glas
Pa mor aml mae’r bag glas yn cael ei gasglu?
Mae’r bagiau glas yn cael ei gasglu bob wythnos.
Beth sy'n mynd yn y bag glas?
Ie, os gwelwch yn dda
- Bocsys cardfwrdd
- Tiwbiau papur tŷ bach
- Cartonau wyau
- Llewys cardfwrdd a ddefnyddir i becynnu bwydydd, gan gynnwys prydau parod ac aml-becynnau
- Cardiau cyfarch heb fathodynnau, rhubanau, ffoil neu gliter
- Y cardfwrdd wrth gefn pecynnau o fatris a brwsys dannedd
- Bocsys ac amlenni cardfwrdd sy’n dod wrth siopa ar-lein
- Papur brown a llwyd fel papur pecynnu
Dim diolch
- Bwyd
- Cardiau cyfarch sydd â bathodynnau, rhubanau, ffoil neu gliter na ellir eu tynnu
- Papur lapio
- Polystyren
- Cartonau bwyd neu ddiod, fel Tetra Pak, a ddefnyddir ar gyfer sudd ffrwythau, llaeth neu gawl
Awgrymiadau
- Labelwch eich bag fel bad yw’n mynd ar goll
- Gwasgwch eich cardbord yn wastad i greu mwy o le yn y bag
- Caewch y bagiau i gadw’r cardfwrdd yn sych
- Gallwch osod cardfwrdd ychwanegol wrth ymyl eich bag glas. Ni ddylai fod yn fwy na’ch bag glas
- Gallwch fynd â bocsys cardfwrdd mawr i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref
Ar ba ddiwrnod caiff fy mag ei gasglu?
Defnyddiwch ein system fapio i ddod o hyd i’ch diwrnod casglu gwastraff/ailgylchu.
Casgliadau a fethwyd
Os oedd eich bag yn y man casglu erbyn 7.00am ar y diwrnod casglu, ond ni chafodd ei wacáu, rhowch wybod i ni ar unwaith drwy lenwi’r ffurflen i roi gwybod am gasgliad a fethwyd a byddwn y trefnu i’w gasglu cyn gynted â phosibl
Roi gwybod am gasgliad a fethwyd
Mae gen i ormod o gardbord i fy mag glas, beth allaf ei wneud?
Gallwch ymweld ag un o'n hybiau casglu cynwysyddion ailgylchu sy’n cadw stoc o flychau ailgylchu, bagiau, cadis a bagiau cadis os oes angen mwy arnoch. Gellir casglu uchafswm o ddau flwch ailgylchu, cadis neu fagiau ailgylchu bob ymweliad.
Os ydych chi'n ddeiliad bathodyn glas, yn derbyn cymorth gyda chasgliadau, neu’n methu ymweld â’r hybiau am resymau meddygol, neu unrhyw reswm arall, gellir dosbarthu’r eitemau ar gais.
Gofyn am gynhwysydd ailgylchu
Beth sy’n digwydd i fy nghardbord?
Rydym yn mynd â'ch cardbord i brosesydd lle mae'r cerdyn yn cael ei brosesu i greu deunydd pacio unigryw, arddangosfeydd a chynhyrchion. Mae hyn yn cynnwys deunyddiau pacio â glud, deunyddiau pacio nwyddau peryglus, cetris glud a selwyr, pecynnau cymysg, paledau rhychog a deunydd pacio cryf.
I ble mae fy eitemau ailgylchu yn mynd?
Fe gewch wybod i ble mae eich eitemau ailgylchu yn mynd drwy glicio ar Fy Ailgylchu Cymru.
Diwygiwyd Diwethaf: 16/01/2025
Nôl i’r Brig