Bagiau ailgylchu newydd

Bydd trigolion yn cael bag coch newydd ar gyfer plastig, caniau, tuniau a chartonau yn nes ymlaen eleni. 

Bydd gwydr, papur, batris a dillad yn dal i gael eu rhoi yn y blychau du. 

Bydd y bag coch yn cael ei gasglu pob wythnos, ochr yn ochr â blychau du, bagiau cardbord a chadis gwastraff bwyd. 

Bydd taflenni gwybodaeth yn cael eu dosbarthu gyda’r bagiau newydd. 

Bydd y bagiau newydd yn gwella effeithlonrwydd y gwasanaeth ailgylchu oherwydd bod plastig, caniau, tuniau a chartonau’n cael eu llwytho i’r lorïau ailgylchu gyda’i gilydd.

Cwestiynau Cyffredin 

Pam fod angen bag ailgylchu arall arnom ni?   

Yn 2022, cyflwynon ni gerbydau ailgylchu newydd gydag adrannau gwahanol ar gyfer deunyddiau gwahanol i’w hailgylchu.  Mae hyn yn gyson â Phatrwm ar Gyfer Casgliadau Ailgylchu Llywodraeth Cymru.  Mae rhannu’n deunyddiau i flychau a bagiau gwahanol cyn casglu’n gwneud y broses o gasglu’n gyflymach ac yn fwy effeithlon. 

Pam bag yn hytrach na blwch arall? 

Bydd y bagiau’n fwy, yn fwy rhad ac yn fwy gwydn na’r blychau du, felly bydd angen llai ohonyn nhw ar drigolion a bydd angen cael rhai newydd yn llai aml. Bydd cloriau y gellir eu cau ar y bagiau – fel y bagiau glas i gardbord – felly bydd yn helpu i leihau sbwriel.  

Pam na allwn ni gael un bin ailgylchu? 

Fel soniwyd uchod, mae Llywodraeth Cymru’n cynghori awdurdodau lleol i gasglu deunydd ailgylchu wedi ei wahanu er mwyn atal eitemau anghywir rhag mynd i’r bin.  Mae cymysgu ailgylchu gwahanol yn lleihau ansawdd a gwerth y deunydd.   Byddai angen o hyd i’r deunydd ailgylchu gael ei wahanu ar ôl casglu, a fyddai’n gofyn am gyfleuster ychwanegol, a byddai’n ddrud i’w brosesu.   

Mae’r casgliad ailgylchu’n aml yn cael ei fethu, sut bydd bag newydd yn helpu? 

Mae dros 95 y cant o ailgylchu’n cael ei gasglu yn ôl y disgwyl, serch hynny, mae peth yn cael ei fethu weithiau neu’n cael ei gasglu’n hwyr. Gall fod nifer o resymau am hyn, ond bydd y bagiau newydd yn helpu effeithlonrwydd y gwasanaeth.  Os yw casgliad eich ailgylchu’n cael ei fethu, dywedwch wrthym ni os gwelwch yn dda. 

Dweud am gasgliad a fethwyd.

Faint o fagiau coch byddaf i’n gallu cael? 

Dim ond un bag fydd ei angen ar y rhan fwyaf o gartrefi, oherwydd eu bod yn cynnwys mwy na’r blwch du.  Gall pethau fel poteli plastig a chaniau gael eu gwasgu fel eu bod yn cymryd llai o le. Os oes angen bag ychwanegol arnoch chi, gallwch gasglu bagiau ychwanegol neu newydd o’n hybiau ailgylchu.

Beth ddylwn i wneud gyda’r blychau du sbâr? 

Os oes gyda chi unrhyw flychau nad oes arnoch chi eu heisiau rhagor, gallwch naill ai eu defnyddio at rywbeth arall, eu rhoi i ffrindiau neu deulu, neu fynd â nhw i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn y Dafarn Newydd. 

Diwygiwyd Diwethaf: 25/07/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Call Torfaen

Ffôn: 01495 762200

E-bost: streetscene@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig