CC Codi'r Gyfradd
Yma, rydym yn ateb eich cwestiynau am yr ymgyrch newydd i gynyddu ailgylchu’r cartref i 70 y cant.
Pam ddaethoch chi â’r ymgynghoriad ar leihau casgliadau sbwriel i ben yn gynnar?
Cafodd y penderfyniad ei wneud gan Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd mewn ymateb i bryderon am y cynlluniau i leihau nifer y casgliadau gwastraff i bob tair neu bob pedair wythnos. Roedd y cynigion yn rhan o gyfres o gynlluniau i gynyddu cyfraddau ailgylchu gwastraff y cartref yn Nhorfaen i 70 y cant erbyn 2025, yn unol â tharged newydd Llywodraeth Cymru. Serch hynny, bydd dulliau amgen yn cael eu hystyried nawr er mwyn cynyddu cyfraddau ailgylchu. Gallwch wylio neges fideo gan Arweinydd y Cyngor, Anthony Hunt, yma.
Ydy hyn yn golygu y bydd casgliadau biniau clawr porffor yn parhau i ddigwydd pob pythefnos?
Ydy, bydd casgliadau biniau clawr porffor yn parhau i ddigwydd pob pythefnos tra bod ymgyrch i gynyddu cyfraddau ailgylchu gwastraff wedi cychwyn. Ond, mae Arweinydd y Cyngor, Anthony Hunt, wedi dweud y bydd newidiadau system efallai’n cael eu hystyried y flwyddyn nesaf os nad yw cyfraddau’n gwella.
Beth fydd ymgyrch Codi’r Gyfradd yn cynnwys?
Bydd yr ymgyrch yn ceisio cynyddu cyfraddau ailgylchu gwastraff y cartref heb wneud newid i’n systemau. Bydd yn cynnwys mwy o wybodaeth gyhoeddus ac addysg ynglŷn â’r hyn sy’n gallu cael ei ailgylchu yn Nhorfaen, gwelliannau i’r gwasanaeth ailgylchu a mwy o gefnogaeth gydag ailgylchu i drigolion sy’n byw mewn fflatiau. Bydd awgrymiadau gan drigolion yn ystod yr ymgynghoriad hefyd yn rhan o'r ymgyrch a bydd arolwg cyhoeddus newydd yn cael ei lansio fis Mai.
Faint sydd rhaid cynyddu cyfraddau ailgylchu?
Mae cyfraddau ailgylchu gwastraff cartref yn Nhorfaen tua 62 y cant ac mae angen iddyn nhw gynyddu i 70 y cant erbyn 2025. Bydd ymgyrch Codi’r Gyfradd yn ceisio codi ailgylchu’r cartref cymaint ag sy’n bosibl i weld a oes modd cyrraedd 70 y cant trwy welliannau yn y gwasanaeth a mwy o ailgylchu gwastraff y cartref.
Beth fydd yn digwydd os fethwn ni’r targed o 70 y cant o ailgylchu?
Mae’n rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru ailgylchu 70 y cant o’u sbwriel erbyn 2025 neu wynebu dirwyon. Yn Nhorfaen, gallem ni fod yn wynebu dirwy o £100,000 ar gyfer pob un y cant yr ydym yn brin o’r targed, a byddai hyn yn effeithio ar wasanaethau’r cyngor.
Pam na wnewch chi ddirwyo pobl sydd ddim yn ailgylchu?
Rydym yn edrych ar gyflwyno polisi newydd o addysg a gorfodaeth, a fydd yn cael ei ystyried gan gynghorwyr yr haf yma. Bydd pwyslais Codi’r Gyfradd ar addysgu a chefnogi trigolion a chymunedau i wneud y newidiadau y mae eu hangen.
Beth ydych chi’n ei wneud i leihau nifer y casgliadau ailgylchu sy’n cael eu colli?
Rydyn ni wedi prynu fflyd newydd o 19 o gerbydau ailgylchu ac rydyn ni hefyd yn buddsoddi mewn technolegau newydd i’w rhoi yn y cerbydau. Felly, os ydyn ni wedi methu â chasglu mewn ardal, gallwn anfon tîm allan ar unwaith.
Rydyn ni hefyd yn hyfforddi arweinwyr tîm i fonitro perfformiad, er enghraifft sicrhau bod pob bin yn cael ei gasglu a chynwysyddion yn cael eu dychwelyd at bob eiddo’n ofalus.
Gall ein trigolion ein helpu trwy sicrhau bod biniau a deunyddiau i’w hailgylchu yn cael eu gadael wrth ymyl y palmant cyn 7 y bore ar ddiwrnodau’r casgliadau. Mae gwahanu plastig a thuniau oddi wrth wydr a phapur hefyd yn ein helpu, ac mae gwasgu cardfwrdd i lawr i mewn i’r bagiau glas a’u cau yn helpu hefyd.
Pam nad ydych chi’n casglu plastig ymestynnol?
Rydyn ni’n canolbwyntio ar annog pobl i ailgylchu’r deunyddiau rydyn ni’n eu casglu yn barod wrth ymyl y ffordd.
Ond, rydyn ni’n gweithio gyda Capital Valley Plastics, yng Nghwmafon, i ddarparu mannau gollwng plastig ymestynnol ar draws y fwrdeistref a byddwn yn ail-lansio ein hymgyrch i ailgylchu plastig ymestynnol mewn ysgolion yn yr haf. Gallwch ddod o hyd i’ch man gollwng agosaf ar ein gwefan.
Beth ydych chi’n ei wneud i annog busnesau i ailgylchu?
Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno rheoliadau newydd a fydd yn gofyn i bob busnes, y sector cyhoeddus a mudiadau trydydd sector yng Nghymru i wahanu deunyddiau sy’n gallu cael eu hailgylchu yn yr un ffordd ag y mae mwyafrif yr aelwydydd yn ei wneud nawr. Maen nhw’n ymgynghori ar y newidiadau arfaethedig.
Dydw i ddim yn hoff o’r syniad o ailgylchu gwastraff bwyd - a fydda’ i’n cael dirwy?
Mae angen i fwy o bobl ailgylchu gwastraff bwyd os ydyn ni’n mynd i gyrraedd y targed o 70 y cant erbyn 2025.
Cesglir gwastraff bwyd wrth ymyl y ffordd yn wythnosol a gallwch gasglu leinwyr cadis cegin yn rhad ac am ddim er mwyn lleihau’r perygl o ddrewdod. Gallwch hefyd ddefnyddio bagiau plastig untro fel bagiau bara. Mae cadis cegin yn gallu mynd i’r peiriant golchi llestri.
Mae’n bosibl i chi gloi’r cadis a gesglir wrth ymyl y ffordd er mwyn atal llygod a phryfed rhag mynd i mewn iddynt.
Mae compostio’n ffordd wych o ailgylchu gwastraff bwyd hefyd. Cewch ragor o wybodaeth ar ein tudalennau compostio.
Dw i’n byw mewn fflat ac nid oes casgliadau ailgylchu yma - beth alla’ i ei wneud?
Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig er mwyn darparu cyfleusterau ailgylchu mewn fflatiau.
Erbyn hyn mae gan tua hanner y fflatiau yn Nhorfaen gyfleusterau ailgylchu, ond os nad oes gan eich fflat chi gyfleusterau o’r fath cysylltwch â’ch landlord.
Diwygiwyd Diwethaf: 16/01/2025
Nôl i’r Brig