Plastig sy'n ymestyn
Pa blastig sy’n ymestyn sy’n medru cael ei ailgylchu?
Ie plîs
- Unrhyw fagiau nwyddau 5c neu 10c/bagiau am oes
- Swigod lapio (wedi ei wasgu byddai orau)
- Bagiau bara
- Plastig sy’n dal chwe phecyn cwrw/diod
- Deunydd pacio caniau neu gartonau diod
- Unrhyw blastig glân sy’n ymestyn sy’n dangos logos ailgylchu penodol
Na dim diolch
- Bagiau salad/bwyd sydd ddim yn ymestyn
- Deunydd paciau cig amrwd neu wedi’i goginio
- Poteli neu gloriau plastig
- Polystyren o unrhyw fath
- Platiau neu gyllyll a ffyrc plastig
- Bagiau baw cŵn bioddiraddadwy
- Haenen lynu
I ble allaf fynd a fy mhlastig sy’n ymestyn i’w ailgylchu?
Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref
Gallwch ailgylchu plastig sy’n ymestyn yn y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn Y Dafarn Newydd.
Archfarchnadoedd
Fe gewch wybod pa archfarchnadoedd yn agos atoch chi sy’n ailgylchu plastig sy’n ymestyn, drwy roi clic ar www.recyclenow.com/repeat-the-cycle
Diwygiwyd Diwethaf: 10/10/2024
Nôl i’r Brig