Sbwriel a baw ci

Cadwch Dorfaen yn Daclus

Mae gan y cyngor rym i roi dirwyon o £100 yn y fan a’r lle i unrhyw un sy’n cael eu dal yn gollwng sbwriel. Mae hyn yn cynnwys sigarennau a phethau fel gweddillion afal a chroen banana. Gall rhai pethau gymryd cannoedd o flynyddoedd i ddadelfennu.

Gall unrhyw un sy’n cael eu dal yn peidio â glanhau baw eu ci hefyd gael dirwy o £100 yn y fan a’r lle.

Gallwch ddweud ar broblem sbwriel neu ddweud am faw ci ar-lein.

Gallwch ddweud hefyd trwy ap Cyngor Torfaen neu drwy ffonio 01495 762200.

Beth mae’r cyngor yn ei wneud?

  • Gwacau 700 o finiau sbwriel bob wythnos
  • Glanhau canolfannau siopa lloeren bob dydd
  • Glanhau bob stryd unwaith bob pythefnos
  • Gweithio gyda Chadwch Gymru’n Daclus i ddarparu hybiau casglu sbwriel cymunedol
  • Gweithio gyda Chadwch Gymru’n Daclus i greu Parthau Di-sbwriel o amgylch ysgolion neu fusnesau
  • Cefnogi grwpiau gwirfoddol sy’n casgli sbwriel

Beth allwch chi wneud?

Diwygiwyd Diwethaf: 03/12/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Streetscene

Ffôn: 01495 762200

E-bost: streetscene@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig