Cerbydau Wedi'u Gadael

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymchwilio i adroddiadau am geir sydd wedi'u gadael ar dir yn yr awyr agored neu unrhyw dir sy'n rhan o briffordd. Yna byddant yn ymchwilio i weld a yw'r cerbyd wedi'i adael, ac yn cynnal gwiriadau i weld a yw wedi'i drethu. Mae'n anghyfreithlon i adael cerbyd yn y stryd. Mae gan yr heddlu'r pŵer hefyd i gael gwared ar unrhyw gerbyd sy'n achosi rhwystr neu sy'n debygol o achosi perygl.

Sut i adnabod cerbyd sydd efallai wedi'i adael

Gellid ystyried bod cerbydau wedi'u gadael: 

  • Os yw'r dreth wedi dod i ben
  • Os oes perygl i'r cyhoedd oherwydd bod y ffenestri wedi'u torri, bod y drysau ar agor, bod olwynion ar goll ac ati, neu os yw'r cerbyd wedi'i losgi'n fwriadol
  • Os nad oes platiau rhif ar y cerbyd
  • Os yw cerbyd nad ydych erioed wedi'i weld o'r blaen wedi ymddangos ar eich stryd ac nad oes neb yn hawlio perchenogaeth arno 

Adrodd am gerbyd wedi'i adael 

Os byddwch yn gweld cerbyd y credwch ei fod wedi cael ei adael, cysylltwch â ni. Bydd angen i chi roi manylion llawn y cerbyd (math, lliw ac ati) a'i union leoliad.

Adrodd ar-lein am gerbyd wedi'i adael

Sut rydym ni'n delio â cherbydau wedi'u gadael  

Os cawn wybod am gerbyd, ac rydym yn ystyried ei fod wedi cael ei adael yn anghyfreithlon ar ôl ymchwilio i’r mater, bydd rhybudd 7 diwrnod yn cael ei osod arno. Bydd y rhybudd yn hysbysu'r perchennog y caiff y cerbyd ei symud oddi yno os na chaiff ei hawlio.

Os na chaiff ei hawlio o fewn 7 diwrnod, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn cynnal gwiriad gyda'r DVLA ac yn ysgrifennu llythyr at y ceidwad cofrestredig hysbys diwethaf, gan roi 7 diwrnod iddo gysylltu â'r awdurdod cyn y caiff y cerbyd ei symud.

Os na cheir hysbysiad mewn perthynas â'r cerbyd, bydd Contractwr y Cyngor yn casglu'r cerbyd a bydd contractwr yn ei storio am 21 diwrnod i roi amser i'r perchennog ei adhawlio, ar ôl talu ffi. 

Os yw'r cerbyd yn cael ei hawlio o fewn y cyfnod rhybudd o 7 diwrnod, ni fydd CBS Torfaen yn cymryd unrhyw gamau pellach, ond bydd yn cynghori'r perchennog i symud y cerbyd.

Os ystyrir bod y cerbyd yn beryglus, e.e. bod ei ffenestri wedi’u torri neu os yw'r cerbyd wedi ei losgi, bydd CBS Torfaen yn cyhoeddi hysbysiad cyhoeddus yn nodi'r perygl ac os na chaiff y cerbyd ei symud o fewn 24 awr bydd y cyngor yn gwneud trefniadau i'w gasglu. Bydd y cerbyd yn cael ei storio gan gontractwr i ganiatáu amser i'r perchennog ei hawlio, ar ôl talu ffi.

Diwygiwyd Diwethaf: 03/12/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Housing Safety and Environmental Protection

Ffôn: 01495 766720

E-bost: public.health@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig