Troliau Siopa Wedi'u Gadael
Mae trolïau siopa wedi'u gadael yn gallu bod yn fwy na dim ond hyll. Os cânt eu gadael mewn man amhriodol, gallant achosi perygl i gerddwyr, beicwyr a defnyddwyr y ffordd fawr, yn ogystal â denu tipio anghyfreithlon ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae'r archfarchnadoedd lleol yn Nhorfaen yn gwneud eu trefniadau eu hunain ar gyfer trolïau sy'n cael eu gadael a gwneir y gwaith hwn gan gwmni preifat o'r enw Trolleywise.
Os yw troli yn achosi perygl uniongyrchol i'r cyhoedd, mae'r cwmni'n ymdrechu i gael gwared arno o fewn 24 awr.
Beth allaf i ei wneud i helpu?
Er mwyn helpu i leihau nifer y trolïau siopa sy'n cael eu gadael, gallwch wneud y canlynol:
- Pan fyddwch wedi defnyddio'r troli siopa, gadewch ef mewn man synhwyrol fel bae trolïau mewn archfarchnad neu faes parcio canol tref, yn barod i'r siop ei gasglu.
- Peidiwch â defnyddio troli siopa i gludo eich siopa adref.
- Os byddwch yn sylwi ar droli siopa sydd wedi'i adael, rhowch wybod i'r archfarchnad amdano yn uniongyrchol.
Sut ydw i'n rhoi gwybod am droli siopa sydd wedi'i adael?
Yn y lle cyntaf, dylai pobl sy'n gweld troli siopa wedi'i adael gysylltu â'r siop berthnasol:
- ASDA – 01633 645300
- Iceland - 01633 863951
- Tesco – 01495 267400
- B&Q – 01633 877323
- Aldi – 08444 068800
- Lidl – 08704 441234
- Farm Foods – 01495 762312
- Sainsbury - 01633 869736
Os nad yw siop yn ymateb i alwad o fewn 24 awr, yna dylai trigolion gysylltu â Trolleywise neu Collex.
Sylwer: Diffiniad - Mae 'troli siopa' yn droli y mae perchennog y siop yn ei ddarparu i gwsmeriaid er mwyn eu galluogi i gludo nwyddau a brynwyd yn y siop. Nid yw'r diffiniad hwn yn cynnwys trolïau sy'n rhedeg ar bŵer. Mae'r pwerau yn Neddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 yn berthnasol i drolïau mewn unrhyw gyflwr ac, felly, gallant gael eu defnyddio yn gysylltiedig â throlïau nad oes modd eu defnyddio eto a rhannau o drolïau.
Diwygiwyd Diwethaf: 19/11/2024
Nôl i’r Brig