Cŵn yn baeddu

Os yw ci yn baeddu mewn man cyhoeddus, cyfrifoldeb y perchennog yw ei godi.

Os na fyddant yn ei godi, gallant dderbyn Hysbysiad Cosb Benodedig o £100, neu eu herlyn, a allai arwain at ddirwy o hyd at £1,000.

Rhoi gwybod am gŵn yn baeddu

Os yw'r baw ci ar wyneb caled ar dir y cyngor, fel palmant neu ardal chwarae, bydd ein tîm Strydlun yn ymateb o fewn tri diwrnod gwaith. Byddwch yn cael gwybod os nad yw'r ardal yn dir sy’n eiddo i’r cyngor.

Gall bobl sy’n berchen ar gŵn gael gwared ar fagiau baw cŵn mewn unrhyw fin baw ci neu fin sbwriel yn y fwrdeistref.

Mae 140 o barthau gwahardd cŵn gan gynnwys pob cae chwarae wedi'i farcio a mannau chwarae i blant. Dysgwch mwy am y parthau gwahardd cŵn.

Rhaid cadw cŵn ar dennyn mewn mynwentydd, ar safle Llyn Cychod Cwmbrân ac ar safle Llynnoedd y Garn.

Ymgyrch Codwch E 

Rydym yn gweithio gyda chlybiau chwaraeon, grwpiau cymunedol ac ysgolion i dynnu sylw at ba mor wrthgymdeithasol yw baw ci, ac rydym yn annog pawb sy’n berchen ar gi i’w godi.

Fel rhan o'r ymgyrch, rydym yn dosbarthu pecynnau atal baw cŵn i alluogi grwpiau i dynnu sylw at yr achosion o faw ci yn eu hardal, a’u monitro. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei throsglwyddo i'n tîm gorfodi sifil.

I ymuno â'r ymgyrch, cysylltwch ar pickitup@torfaen.gov.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 16/04/2025
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Strydlun

Ffôn: 01495 762200

E-bost: streetscene@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig