Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus
Ar 27 Tachwedd 2024 rhoddwyd cymeradwyaeth i barhau â'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus o ran Rheoli Cŵn yn Nhorfaen. Roedd hyn yn disodli ein Gorchymyn blaenorol yn 2021. Bydd y Gorchymyn newydd yn berthnasol i Dorfaen am gyfnod o 3 blynedd o 1 Rhagfyr 2024 tan 30 Tachwedd 2027. Datblygwyd cwmpas y Gorchymyn newydd yn dilyn ymarfer ymgynghori cyhoeddus a gynhaliwyd yn 2024. Yn union fel y Gorchymyn blaenorol, mae tri math o gyfyngiad; baw cŵn, ardaloedd gwahardd cŵn ac ardaloedd cŵn ar dennyn.
1. Cŵn yn Baeddu
Bydd hyn yn berthnasol drwy'r Fwrdeistref Sirol gyfan, lle mae'n drosedd peidio â chael gwared ar faw cŵn o unrhyw dir y mae gan y cyhoedd fynediad iddo. Nid yw'r drosedd hon wedi newid ers y Gorchymyn blaenorol.
2. Ardaloedd Gwahardd Cŵn
O gymharu â’r Gorchymyn blaenorol, rydym wedi gostwng nifer yr ardaloedd gwahardd cŵn o tua 250 i 140.
Yn yr un modd â'r Gorchymyn blaenorol, mae cŵn yn cael eu gwahardd o diroedd ysgol, mannau chwarae i blant a chaeau chwaraeon sydd wedi'u marcio( effeithir ar gaeau chwaraeon wedi'u marcio yn unig. Gall fod caeau wedi'u marcio â llinellau gwyn neu linellau brown lle mae'r borfa wedi marw yn ôl. Fel arall efallai bod ffensys, rhwystr neu linell rhaff yn diffinio ardal y cae. Caniateir cŵn o gwmpas ymylon caeau sydd wedi'u marcio a rhyngddynt). Mae cŵn hefyd wedi'u gwahardd o Ardal Bridio Cornicyllod (Ardal Gwlypdiroedd Llynnoedd y Garn) ger Gwarchodfa Natur Llynnoedd y Garn.
3. Ardaloedd Cŵn ar Dennyn
Mae'r cyfyngiad hwn yn golygu bod gadael ci oddi ar dennyn mewn ardaloedd penodol yn drosedd. Dyma'r meysydd penodedig:
- Gwarchodfa Natur Llynnoedd y Garn ym Mlaenafon (rhaid cadw cŵn ar dennyn bob amser wrth gerdded o amgylch y prif lynnoedd)
- Llyn Cychod Cwmbrân (rhaid cadw cŵn ar dennyn bob amser wrth gerdded o amgylch y llyn, o amgylch y caffi a’r mannau chwarae i blant)
- Pob un o 4 mynwent y cyngor - Mynwent Blaenafon, Mynwent Panteg, Mynwent Cwmbrân a Mynwent Llwyncelyn. Rhaid cadw cŵn ar dennyn bob amser tra y byddwch o fewn ffiniau’r mynwentydd.
Gweld y Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus ar ein system fapio.
Mae copi o Orchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus (Rheoli Cŵn) Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen 2024 i’w weld yma.
Mae ardaloedd lle y gwaherddir cŵn yn ymddangos yn GOCH ac mae mannau lle caniateir cŵn ar dennyn yn ymddangos yn WYRDD. Gan ddefnyddio’r system fapio fe allwch chwilio am ardal benodol a allai fod o ddiddordeb i chi a hynny yn ôl enw stryd, pentref, tref, ward ac ati.
Beth yw’r gosb am beidio â chydymffurfio â’r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus- Rheoliadau Cŵn?
Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn cynnig hysbysiad cosb benodedig o £100 am droseddau sydd wedi'u cynnwys yn y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus. Bydd methu â thalu'r hysbysiad cosb benodedig yn golygu y bydd y cyngor yn cymryd camau cyfreithiol a all arwain at ddirwy o lefel 3 ar y raddfa safonol, sydd yn £1,000 ar hyn o bryd.
 Diwygiwyd Diwethaf: 30/10/2025 
 Nôl i’r Brig