Cŵn coll neu grwydr

Ci coll

Os ydych chi wedi colli ci, dylech gysylltu â’n Warden Cŵn cyn gynted â phosibl.

Rydym yn cadw cofnod o gŵn a gollwyd ac y cafwyd hyd iddynt yn yr ardal o Dorfaen ble dywedwyd wrthym amdanynt, a bydd ein staff yn falch o edrych ar y cofnod yma i chi os yw eich ci ar goll.

Cysylltwch â ni os gwelwch yn dda i ddweud am eich ci coll ac i roi eich manylion:

  • Dydd Llun – Ddydd Iau 09:00 - 17:00 – Ffôn: 01633 648009
  • Dydd Gwener – 09:00 – 16:30 – Ffôn: 01633 648009
  • Yn yr wythnos ar ôl 17:00 Llun-Iau; ar ôl 16:30 ar ddydd Gwener; trwy’r dydd ar benwythnos a Gwyliau’r Banc - Ffôn: 01495 762200

Hefyd, gallwch edrych ar www.hoperescue.org.uk a thudalen Facebook Hope Rescue ble mae lluniau o gŵn coll yn cael eu dangos.

Efallai byddwch am rannu manylion ci coll neu gi y cafwyd hyd iddo trwy’r cyfryngau cymdeithasol, sy’n derbyn llawer o adroddiadau o gŵn sydd wedi eu colli, eu canfod a’u gweld.

Nodwch os gwelwch yn dda: Nid ydym yn ymateb mewn perthynas â chathod coll neu grwydr.

Hawlio’ch ci coll 

Os yw’r Warden Cŵn wedi codi eich ci fel ci ar grwydr yna, a bwrw bod sglodyn micro ar eich ci a bod y manylion yn gyfredol, neu os oes gan y ci labed enw, ni fyddwn yn rhoi cartref newydd i gi hyd nes y byddwn wedi ceisio canfod y perchennog a chysylltu â nhw, a hyd nes y bydd 7 diwrnod wedi mynd heibio.

Os yw eich ci wedi ei ddwyn i un o’n Cynelau cydnabyddedig, bydd angen i chi dalu’r ffi rhyddhau berthnasol i gyd yn uniongyrchol i’r Cyngor cyn y bydd modd rhyddhau eich ci (gwelwch y Tabl ffioedd isod).

Ci Crwydr

Os dewch chi o hyd i gi crwydr, gallwch gysylltu â ni i ddweud am hyn, a gellir gwneud trefniadau i gasglu neu i fynd â nhw’n syth i’r cynel yn unol â’r wybodaeth gyswllt isod:

  • Dydd Llun – Ddydd Iau 09:00 - 17:00 – Ffôn: 01633 648009
  • Dydd Gwener – 09:00 – 16:30 – Ffôn: 01633 648009
  • Yn yr wythnos ar ôl 17:00 Llun-Iau; ar ôl 16:30 ar ddydd Gwener; trwy’r dydd ar benwythnos a Gwyliau’r Banc - Ffôn: 01495 762200

Y Gwasanaeth y Tu Allan i Oriau

Os ydych chi’n dal ci crwydr y tu allan i oriau swyddfa arferol, dylech gysylltu â’n Hystafell Rheoli ar 01495 762200 am gyfarwyddiadau ynglŷn â sut i gymryd y ci i’n cynelau cydnabyddedig.  Nid ydym yn cynnig gwasanaeth casglu y tu allan i oriau swyddfa arferol, felly dylech ein ffonio ni ar 01633 648009 y diwrnod gwaith nesaf os ydych chi am i ni ddal neu gasglu ci crwydr.

Ail-gartrefu cŵn nad oes eu heisiau

Anffodus, nid ydym yn gallu ail-gartrefu cŵn nad yw eu perchnogion yn gallu gofalu amdanynt.

Ail-gartrefu cŵn crwydr 

Ble bynnag y bo’n bosibl, bydd cŵn nad ydynt wedi eu hawlio ar ôl 7 diwrnod yn cael eu rhoi i elusen ail-gartrefu sy’n gweithio gyda ni i sicrhau bod cymaint o gŵn â phosibl yn cael cartrefi da.

Os yw ci coll yn sâl neu wedi ei anafu, byddwn yn gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei weld a’i drin gan filfeddyg.  Rydym yn ceisio peidio â rhoi unrhyw gŵn i gysgu, oni bai eu bod yn sâl iawn, yn cael eu hystyried yn rhai peryglus, neu ddim yn gallu cael eu hail-gartrefu gan ein partneriaid elusennol - a byddwn bob amser yn gofyn am gyngor milfeddyg cyn i ni gymryd y cam yma.

Ein ffioedd

Os yw eich chi yn ein meddiant, bydd rhaid i chi dalu ffi ar gyfer ei ryddhau ac ar gyfer unrhyw gostau cynelu a chostau milfeddygol.  Mae’r ffioedd presennol fel a ganlyn:

Ffioedd rhyddhau – nifer o ddiwrnodau yn y Cynelau

  • Os bydd y ci yn cael ei gasglu o fewn y diwrnod gwaith cyntaf, h.y. heb fod yn hwyrach na 5pm - £100 (£80 os oes microsglodyn ar y ci ac mae’r manylion yn gywir)
  • 2 diwrnod - £107 (£87 os oes gan y ci sglodyn micro ac os yw’r manylion yn gyfredol)
  • 3 diwrnod - £114 (£94 os oes gan y ci sglodyn micro ac os yw’r manylion yn gyfredol)
  • 4 diwrnod - £121 (£101 os oes gan y ci sglodyn micro ac os yw’r manylion yn gyfredol)
  • 5 diwrnod - £128 (£108 os oes gan y ci sglodyn micro ac os yw’r manylion yn gyfredol)
  • 6 diwrnod £135 (£115 os oes gan y ci sglodyn micro ac os yw’r manylion yn gyfredol)
  • 7 diwrnod - £142 (£122 os oes gan y ci sglodyn micro ac os yw’r manylion yn gyfredol)
  • Mae’r ffioedd cynelu a milfeddygol cysylltiedig fel a ganlyn:

Ffioedd cynelu a milfeddygol

  • Cynelu - £20 y dydd (neu ran ohono)
  • Cynelu i gi bach - £20 y dydd (neu ran ohono)
  • Cynelu i gi peryglus - £25 y dydd (neu ran ohono)
  • Tâl brechu cychwynnol - £15 y ci

Rhoi sglodyn micro ar eich ci

Mae’n drosedd bod yn berchen ar gi heb fod sglodyn micro arno gyda manylion cyfredol.

I wneud hyn, dylech gysylltu â’ch milfeddyg lleol i drefnu i sglodyn micro gael ei osod ar eich ci.  Bydd y milfeddyg wedyn yn defnyddio sglodyn sy’n cysylltu at gronfa ddata benodol fel www.petlog.org.uk or www.anibase.com

Cŵn Peryglus 

Nid ydym ni’n delio ag adroddiadau am gŵn peryglus.  Os ydych chi’n credu bod ci’n beryglus, dywedwch amdano wrth Heddlu Gwent os gwelwch yn dda.

https://www.gwent.police.uk/cy-GB/cyngor/cyngor-a-gwybodaeth/ac/troseddau-anifeiliaid/

Diwygiwyd Diwethaf: 23/08/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Rheoli Anifeiliaid a Phlâu

Ffôn: 01633 647621/22

E-bost: adminteam.planningpp@torfaen.gov.uk  

Nôl i’r Brig