Diogelwch ar y Ffyrdd - Gollyngiadau
Daw peryglon ar y ffyrdd mewn sawl ffurf a siâp. Gall gollyngiadau ar y ffordd fod yn arbennig o beryglus i bawb sy'n defnyddio'r ffordd, yn enwedig y rheiny sy'n gyrru beiciau modur neu sy'n beicio. Gall y gollyngiadau hyn fod yn hylifau neu'n ddeunyddiau solet a gallant fod o ganlyniad i wrthdrawiad neu ollyngiad damweiniol o gerbyd neu drelar masnachol.
Y prif enghreifftiau o ollyngiadau ar y ffordd yw mwd a phridd (sy'n cael eu gadael fel arfer gan gontractwyr adeiladu neu ffermwyr) adeg tywydd gwlyb. Mae gollyngiadau cyffredin eraill yn cynnwys olew, gro, tywod neu unrhyw gargo sy'n syrthio o gerbydau.
Y Cyngor sy'n gyfrifol am gadw'r ffordd yn lân ac yn rhydd o ollyngiadau. Pan fydd gollyngiadau'n beryglus, mae'n bosibl y bydd yr heddlu a'r gwasanaeth tân lleol yn chwarae rhan yn y digwyddiad ac mae'n bosibl y bydd rhaid cau'r ffordd.
Anelwn at ddelio â phob digwyddiad peryglus yn syth ar ôl i ni glywed amdanynt.
Rhoi Gwybod
Mae'r Cyngor yn gweithredu gwasanaeth galw allan 24 awr, 365 diwrnod er mwyn ymateb i ddigwyddiadau brys/ymatebol, fel gollyngiadau ar wyneb ffyrdd, cau ffyrdd a gwyro traffig, yn ôl y gofyn.
Os gwelwch ollyngiadau ar y ffordd - gallai hyn gynnwys olew, gro, tywod neu rywbeth yn syrthio o gerbyd, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl trwy ffonio 01495 762200 rhwng 08:30 a 17:00 o ddydd Llun i ddydd Iau a 08:30 – 16:30 ar ddydd Gwener neu 01495 762200 y tu allan i'r oriau hyn (argyfyngau yn unig).
Os oes gennych unrhyw wybodaeth ynghylch yr unigolyn a achosodd y trosedd, boed yn ddamweiniol neu'n fwriadol, soniwch am hyn pan fyddwch yn rhoi gwybod am y digwyddiad. Bydd hyn yn ein helpu i adfer unrhyw gostau oddi wrth y rheiny sy'n gyfrifol.
Os ydych yn pryderu am ollyngiad, peidiwch â cheisio delio ag ef eich hun.
Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Nôl i’r Brig