Tipio anghyfreithlon

Ystyr tipio anghyfreithlon yw gollwng sbwriel neu eitemau swmpus yn anghyfreithlon ar dir nad oes trwydded arno ar gyfer derbyn sbwriel.

Mae gollwng gwastraff o’r cartref, gwastraff diwydiannol neu fasnachol yn anghyfreithlon yn drosedd ddifrifol a all arwain at ddirwyon heb gyfyngiad a/neu cyfnod o garchar.  Mae hyn yn cynnwys gwastraff o’r cartref sy’n cael ei ollwng wrth finiau sbwriel cyhoeddus.

Gall cerbyd a gaiff ei ddefnyddio i dipio sbwriel yn anghyfreithlon gael ei gipio gan yr heddlu a gellir erlyn y perchennog, hyd yn oed os nad oedden nhw’n gyfrifol am y tipio.

Bydd Cyngor Torfaen yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn unrhyw un a gaiff eu dal yn tipio gwastraff yn anghyfreithlon.

Mae ein timau’n monitro’n rheolaidd mannau ble mae tipio’n digwydd yn gyson ac yn gwneud hynny’n bersonol a thrwy ddefnyddio camerâu symudol cudd.  Rydym hefyd yn ymchwilio i bob adroddiad am dipio.

Gall trigolion a busnesau gael gwared ar wastraff yng Nghanolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn y Dafarn Newydd

Gallwch wneud cais am drwydded fan neu drelar ar gyfer Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yma.

Os cewch chi o hyd i wastraff wedi ei dipio

  • Peidiwch â chyffwrdd â’r gwastraff neu dynnu eitemau i ffwrdd – gallai fod yna beryglon fel nodwyddau a thystiolaeth a all gael ei defnyddio i wybod pwy sy’n gyfrifol.
  • Gwnewch nodyn o’r hyn y gallwch ei weld, y dyddiad, yr amser a’r lle.
  • Dywedwch am dipio anghyfreithlon wrth y cyngor ar-lein, trwy ap Cyngor Torfaen neu drwy ffonio 01495 762200.

Os welwch chi rywun yn tipio’n anghyfreithlon, gwnewch nodyn o’r hyn sydd wedi ei ollwng, a ble; gwneuthuriad a model a rhif cofrestru unrhyw gerbyd a disgrifiadau o’r bobl sydd ynghlwm a dywedwch am hyn wrth y cyngor.

Mae’r cyngor yn ceisio cael gwared â gwastraff sydd wedi ei dipio ar dir sy’n eiddo i’r cyngor o fewn pum diwrnod gwaith.

Os yw gwastraff wedi ei dipio ar dir preifat, cyfrifoldeb perchennog y tir yw cael gwared arno ond byddwn yn eu cefnogi os gallwn ni.  

Adroddiadau diweddar am dipio

Mae'r map hwn yn dangos achosion o dipio anghyfreithlon wedi ei adrodd a'u clirio o dir y cyngor yn ystod y 30 diwrnod diwethaf.

Diwygiwyd Diwethaf: 03/05/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Strydlun

Ffôn: 01495 762200

E-bost: streetscene@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig