Mynediad cyhoeddus i doiledau yn Nhorfaen
Mae angen i lawer o bobl ddefnyddio'r toiled pan fyddant yn mynd o gwmpas ac mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (CBST) yn ymrwymedig i chwarae rhan mewn darparu mynediad i doiledau a sicrhau bod gwybodaeth ar gael fel y gall pobl adael eu cartrefi heb bryderu ynglŷn â chael hyd i doiled pan fo’r angen.
Mae CBST yn darparu nifer o flociau toiledau cyhoeddus ar draws y Fwrdeistref ar hyn o bryd ac yn caniatáu i bobl ddefnyddio’r toiledau mewn nifer o’n hadeiladau cyhoeddus. Mae yna hefyd llawer o fusnesau (fel siopau, caffis, bwytai a thafarndai) a sefydliadau eraill sy’n darparu cyfleusterau toiled i gwsmeriaid.
Weithiau gall yr angen i ddefnyddio toiled fod yn argyfwng ac os nad ydych yn gwybod ble i gael mynediad i gyfleusterau o'r fath gall hyn olygu bod rhai pobl yn aros gartref neu yn cyfyngu ar eu gweithgareddau. Gall hyn arwain at ynysu cymdeithasol a theimladau o unigrwydd, yn enwedig ymysg pobl hŷn a’r rheiny sydd â phroblemau iechyd neu fudoledd. Dylai pawb fod yn gallu mynd o gwmpas, cwrdd â ffrindiau a chymryd rhan mewn bywyd lleol.
Gyda chyllidebau gwasanaeth cyhoeddus yn lleihau, mae cynnal toiledau cyhoeddus bob amser yn faes sy'n peri pryder ac mae'r Cyngor yn gwneud popeth o fewn ei allu i weithio gyda phartneriaid a pharhau i ddarparu’r cyfleusterau hyn.
Ym Mai 2019 fe gyhoeddon ni Strategaeth Toiledau Lleol, a ddatblygwyd gyda mewnbwn sylweddol gan drigolion Torfaen. Mae’r strategaeth yn amlinellu ein hasesiad o gyfleusterau toiled lleol a sut fyddwn ni’n gweithio gyda’n partneriaid sy’n barod i adael i aelodau’r cyhoedd ddefnyddio’u toiledau i gwsmeriaid.
Gallwch lawrlwytho rhestr o leoliadau toiledau yn Nhorfaen, ble mae perchnogion wedi cadarnhau eu bod yn hapus i unrhyw un eu defnyddio.
Rydym ni hefyd wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru a’r awdurdodau lleol eraill ar draws Cymru i greu map cenedlaethol o doiledau a fydd yn helpu pobl i deimlo’n hyderus wrth deithio ymhellach i ffwrdd.
Rydym yn ymwybodol o nifer o fusnesau lleol a masnachwyr ar-lein sy’n gwerthu allweddi RADAR, sy’n caniatáu mynediad i doiledau hygyrch. Mae gwybodaeth am doiledau RADAR ar gael yma
Diwygiwyd Diwethaf: 07/08/2019
Nôl i’r Brig