Atal Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon
Mae’r cyngor yn gwario dros £1.36miliwn o bunnoedd pob blwyddyn yn glanhau sbwriel a thipio anghyfreithlon mewn mannau cyhoeddus.
I helpu i leihau’r broblem, a chost delio â sbwriel a thipio anghyfreithlon, mae gan y cyngor Strategaeth Atal Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon, sy’n rhoi ymrwymiadau i:
- Gadw’r fwrdeistref yn lân ac yn glir o sbwriel.
- Cefnogi trigolion i wella golwg eu cymuned leol.
- Rhwystro pobl rhag taflu sbwriel, tipio’n anghyfreithlon neu adael i’w cŵn faeddu mannau cyhoeddus.
Lawrlwythwch gopi i Strategaeth Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon Torfaen 2021-2026
Swyddog Atal Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon
Mae Oliver James yn gweithio gyda grwpiau cymunedol, busnesau a phartneriaid lleol i daclo problemau sbwriel, tipio anghyfreithlon, trolïau wedi eu gadael a baw cŵn yn eu hardaloedd lleol.
Gan weithio gyda Chadwch Gymru’n Daclus, mae’n ceisio cynyddu nifer yr Hybiau Codi Sbwriel a Pharthau Di-Sbwriel yn y fwrdeistref. Mae rhagor o wybodaeth am y cynlluniau yma ar gael trwy www.keepwalestidy.cymru.
Mae e hefyd yn trefnu digwyddiad blynyddol gwanwyn glân Torfaen ac yn cefnogi gwirfoddolwyr a grwpiau yn Nhorfaen sy’n codi sbwriel. Os oes gyda chi ddiddordeb mewn cyfleoedd codi sbwriel, danfonwch e-bost at oliver.james@torfaen.gov.uk.
Diwygiwyd Diwethaf: 21/06/2024
Nôl i’r Brig