Hybiau Codi Sbwriel
Rydym yn gweithio gyda Chadwch Gymru’n Daclus i gefnogi hybiau codi sbwriel a chefnogi busnesau a sefydliadau i sefydlu Ardaloedd Di-Sbwriel.  
Gall grwpiau codi sbwriel neu wirfoddolwyr unigol gael benthyg offer am ddim, gan gynnwys codwyr sbwriel, cylchoedd, sachau a siacedi high-vis, o’r mannau canlynol: 
- Circulate Furniture Recycling, Blaenafon 
- Partneriaeth Costar, Y Ddôl Werdd
- Cyngor Cymuned Cwmbrân, Ventnor Road, Cwmbrân 
- Partneriaeth Garnsychan, Abersychan 
- Canolfan Ymwelwyr a Gweithgaredd Llyn Llandegfedd  
- Marchnad Pont-y-pŵl 
- Caffi’r Tŷ Cychod, Llyn Cychod Cwmbrân
- Canolfan Gymunedol Bryn Eithin, Cwmbrân 
Dywedwch am godi sbwriel cymunedol er mwyn trefnu bod sachau sbwriel yn cael eu casglu. 
Mae’n help os gallwch chi gasglu eitemau y mae modd eu hailgylchu ar wahân i sbwriel cyffredinol.  
I awgrymu mannau eraill ar gyfer hybiau codi sbwriel, cysylltwch â’n swyddog atal sbwriel a thipio, Oliver James trwy oliver.james@torfaen.gov.uk 
Ardaloedd Di-Sbwriel 
Rydym yn gweithio gyda Chadwch Gymru’n Daclus i helpu busnesau a sefydliadau i fod yn Ardaloedd Di-Sbwriel. 
Mae sefydlu Ardal Ddi-Sbwriel yn wych i’ch cymuned leol, natur a bywyd gwyllt. 
Gall hefyd wella ymddangosiad eich adeilad; dangos i’ch cwsmeriaid a chymdogion eich bod yn sefydliad cyfrifol a helpu i ddod â staff a thimau at ei gilydd.  
Cofrestrwch fel Ardal Di-Sbwriel
Dysgwch ble mae’r ardaloedd di-sbwriel
 Diwygiwyd Diwethaf: 15/07/2025 
 Nôl i’r Brig