Yn y gwaith neu'n teithio
Yn y gweithle
Cymerwch amser i ymgyfarwyddo ag unrhyw ddogfennaeth a gweithdrefnau tân ac iechyd a diogelwch sydd ar gael yn eich gweithle.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod ymhle y lleolir yr allanfeydd tân a’r mannau ymgynnull rhag ofn y bydd yna dân.
Gwnewch yn siŵr bod pob aelod newydd o staff ac ymwelwyr hefyd yn gwybod pa weithdrefnau i’w dilyn.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith rhowch glic ar wefan Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
Wrth deithio yn y car
Cofiwch wrando ar adroddiadau teithio os ydych yn debygol o deithio yn ystod tywydd garw a gwrandewch ar unrhyw gyngor a roddir gan orsafoedd teledu neu radio lleol.
Mae’n syniad da i gario fflach lamp, dŵr potel, Pecyn Cymorth Cyntaf, losin neu fyrbrydau a ffôn symudol.
Os ydych yn teithio yn y car pan fydd y tywydd yn oer iawn neu’n bwrw eira ystyriwch y canlynol hefyd:
- Dillad cynnes a chot wrth-ddŵr
- Esgidiau trymion
- Rhaw
- Fflasg â diod boeth
Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Nôl i’r Brig