Cyngor ar gyfer Argyfwng

Gallwch helpu i gynllunio ar gyfer argyfwng trwy gymryd rhai camau syml ymlaen llaw.

Byddwch yn gyfarwydd â’ch cartref fel eich bod yn y sefyllfa orau posibl i weithredu os bydd argyfwng.

Gofynnwch y cwestiynau canlynol i chi'ch hun:

  • Sut fyddech chi'n diffodd eich cyflenwadau trydan, nwy a dŵr?
  • Beth yw'r llwybrau ymadael yn eich cartref ac o amgylch?
  • A yw dogfennau pwysig eich cartref wedi'u storio mewn cynhwysydd diogel?
  • A ydych chi ac aelodau eraill o'r teulu yn gwybod ble mae’r dogfennau hyn pe bai rhaid i chi adael?
  • A yw eich dogfennau yswiriant yn gyfredol ac a oes gennych yswiriant digonol ar gyfer eich cartref a'i gynnwys?
  • A oes gennych rifau ffôn ar gyfer teulu, ffrindiau ac ysgolion ar gael yn rhwydd pe bai rhaid i chi adael eich cartref?
  • Sut fyddech chi'n delio ag anifeiliaid anwes pe bai'n rhaid i chi adael eich cartref?

Yn ystod argyfwng, mae hefyd yn ddefnyddiol cael yr eitemau canlynol ar gael (o bosibl mewn 'bag cydio') felly gwnewch yn siŵr eu bod yn hygyrch a bod holl aelodau yn gallu mynd atynt yn rhwydd yn ystod argyfwng:

  • Pecyn Cymorth Cyntaf
  • Fflachlamp a batris sbâr
  • Ffonau symudol a gwefrwyr
  • Rhestr cysylltiadau brys a llyfr nodiadau/pen a phensil
  • Radio gyda batri
  • Dŵr mewn potel rhag ofn nad yw'r prif gyflenwad dŵr ar gael
  • Dillad cynnes a blancedi
  • Cyflenwadau o fwyd parod i'w fwyta
Diwygiwyd Diwethaf: 25/03/2025
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Rheoli Argyfyngau
Ffôn: 01495 762200

Nôl i’r Brig