Ymateb Cyngor Torfaen mewn argyfwng
Prif swyddogaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ystod cyfnod cynnar digwyddiad brys yw cynnal a diogelu gwasanaethau arferol y cyngor, tra'n cysylltu â'r gwasanaethau brys a'u cefnogi.
Bydd y cyngor fel arfer yn ymwneud â digwyddiad ar ôl iddo gael ei rybuddio gan y gwasanaethau brys. Wrth i ddigwyddiad ddatblygu a symud at y cam adfer, bydd y cyngor yn dechrau cymryd y rôl arweiniol gan y gwasanaethau brys. Dim ond unwaith y bydd y bygythiad uniongyrchol i les dynol, yr amgylchedd neu eiddo wedi lleihau, y bydd y trosglwyddiad hwn yn digwydd
Gall y cyngor fod yn rhan o ddigwyddiad mewn nifer o ffyrdd gan gynnwys:
- Adsefydlu'r gymuned
- Gofal Cymdeithasol, Cymorth a Llesiant
- Cymorth lles a chwnsela
- Cyllid Brys
- Darparu trefniadau llety brys
- Canolfannau gorffwys brys sy'n darparu bwyd, diod, cymorth
- Darparu staff ac offer arbenigol
- Rheoli traffig priffyrdd
Mae CBS Torfaen, ochr yn ochr ag asiantaethau eraill sy’n ymateb fel y rhagnodir o dan Ddeddf Argyfyngau Sifil 2004, yn aelodau o Fforwm Gwydnwch Lleol Gwent (FfGLlG). Mae gwefan FfGLl Gwent, sy'n cynnwys Cofrestr Risg Cymunedol Gwent, ar gael yma https://www.gwentprepared.org.uk/cy/.
Diwygiwyd Diwethaf: 25/03/2025
Nôl i’r Brig