Tywydd Garw
Gall tywydd garw fel stormydd, llifogydd, eira a thymheredd eithafol roi bywydau mewn perygl ac amharu ar drafnidiaeth a gwasanaethau lleol.
I gael gwybodaeth am unrhyw rybuddion a rhagolygon tywydd cyfredol, ewch i wefan y Swyddfa Dywydd.
Am gyngor iechyd mewn perthynas â phob math o dywydd garw gweler Y Tywydd ac Iechyd - Iechyd Cyhoeddus Cymru
Trafnidiaeth a Ffyrdd
Yn ystod tywydd garw, gall ffyrdd gael eu rhwystro a gall trafnidiaeth gyhoeddus fod yn gyfyngedig. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn cydlynu clirio ffyrdd yn y fwrdeistref ac yn ceisio cadw'r prif lwybrau ar agor fel blaenoriaeth. Efallai y bydd ffyrdd preswyl ac isffyrdd yn parhau i fod heb eu clirio felly cynghorir cymryd gofal os ydych chi'n teithio yn ystod tywydd garw.
Bydd cyngor ar unrhyw gau ffyrdd neu gyfyngiadau ar drafnidiaeth gyhoeddus yn cael ei ddarlledu ar eich gorsafoedd radio lleol ac efallai y cewch eich cynghori i adael eich car gartref. Dilynwch unrhyw gyngor gan y gwasanaethau brys i osgoi teithio os oes rhybuddion ar waith.
I gael rhagor o wybodaeth am gau ffyrdd
Gwybodaeth Traffig Cymru - Ffôn: 0845 602 6020 neu ewch i Traffig Cymru
Cau Ysgolion
Weithiau, efallai y bydd angen cau ysgolion yn ystod cyfnodau o dywydd rhewllyd neu eira. Yn ogystal â monitro sianeli cyfryngau lleol, gall trigolion gael diweddariadau rheolaidd ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen neu drwy ddilyn tudalennau cyfryngau cymdeithasol y Cyngor:
www.twitter.com/cyngortorfaen neu www.facebook.com/torfaen
Methiannau Cyfleustodau
Gall cyfnodau o dywydd garw effeithio ar gyflenwad cyfleustodau fel Trydan, Dŵr, Nwy, a gwasanaethau Telegyfathrebu i'r cartref.
Gellir rhoi gwybod am fethiannau cyfleustodau gan ddefnyddio'r manylion cyswllt ar y cysylltiadau mewn argyfwng.
Diwygiwyd Diwethaf: 25/03/2025
Nôl i’r Brig