Cynllunio Parhad Busnes
Diben yr arweiniad yn yr adran hon yw rhoi gwybodaeth gyffredinol am gynllunio at argyfwng. Nid yw wedi'i fwriadu i ddisodli arweiniad manwl a chynlluniau sy'n benodol i'ch busnes chi.
Mae Deddf Cynlluniau Wrth Gefn Sifil 2004 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i hybu Rheoli Parhad Busnes a, lle bo'n bosibl, rhoi cyngor ar Barhad Busnes i sefydliadau masnachol a gwirfoddol.
Beth yw Parhad Busnes?
Proses reoli yw Rheoli Parhad Busnes sy'n helpu i reoli'r risgiau i weithrediad llyfn sefydliad neu ddarpariaeth gwasanaeth, gan sicrhau y gall parhau i weithredu i'r graddau sy'n ofynnol yn achos unrhyw amhariad.
Term arall a ddefnyddir yn gyffredin yw Adfer Wedi Trychineb, sef dull cytunedig a chynlluniedig o adfer eich seilwaith TGCh critigol yn achos amhariad mawr.
Pam mae Parhad Busnes yn bwysig?
Heb gynllunio parhad busnes yn effeithiol, gallai trychineb naturiol neu o wneuthuriad dyn arwain at unrhyw un o'r canlynol:
- Methiant llwyr o'ch busnes
- Colli incwm
- Colli enw da neu golli eich cwsmeriaid
- Cosbau ariannol, cyfreithiol a rheoleiddiol
- Materion adnoddau dynol
- Effaith ar daliadau neu bremiymau yswiriant
Cynllunio Parhad Busnes
I gynllunio ar gyfer ymateb llwyddiannus i amharu ar fusnes, dylech:
- Deall y swyddogaethau craidd, hanfodol y mae eich gwasanaeth yn eu darparu
- Ystyried pa fath o amhariad allai atal eich bwriad i gyflawni'r swyddogaethau hynny e.e. tân, llifogydd, colli staff, TGCh
- Asesu'r camau diogelu sydd gennych ar waith a fyddai'n eich galluogi i gynnal darpariaeth gwasanaeth, hyd yn oed i raddau llai na'r gorau posibl. Gweithredwch gamau ychwanegol os ystyrir bod y mesurau presennol yn annigonol.
- Paratoi cynllun y gellid ei ddefnyddio fel canllaw yn ystod cyfnodau o amhariad sy'n sicrhau bod y mesurau amddiffynnol yn cael eu gweithredu.
- Cynnal a phrofi'r cynllun i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn berthnasol a cheisio gwelliant parhaus.
Diwygiwyd Diwethaf: 25/03/2025
Nôl i’r Brig