Gadael mewn Argyfwng

Mewn rhai mathau o argyfyngau, efallai y bydd y gwasanaethau brys yn gofyn i chi adael eich cartref.  Bydd y lle y gofynnir i chi fynd iddo’n dibynnu ar natur a graddfa'r digwyddiad.  Yn y rhan fwyaf o achosion, byddai gofyn i chi fynychu canolfan orffwys sydd â'r nod o ddarparu lloches sylfaenol tymor byr i bobl sydd wedi'u dadleoli.

Yn hytrach na mynd i ganolfan orffwys, efallai y byddai'n well gennych fynd i dŷ ffrindiau neu berthnasau.  Gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrth unrhyw bobl y gwasanaethau brys sy'n bresennol am eich bwriad fel y gallwch gael eich cyfrif.

Os oes gennych unrhyw gymdogion oedrannus neu anabl, rhowch wybod i'r gwasanaethau brys ble maen nhw.

Os yw'n ddiogel ac os oes amser, ceisiwch gofio mynd â'r eitemau canlynol gyda chi os oes rhaid i chi adael eich cartref:

  • Unrhyw becyn argyfwng / bag cydio wedi'i baratoi ymlaen llaw
  • Rhifau ffôn mewn argyfwng
  • Meddyginiaeth a sbectol presgripsiwn
  • Dogfennaeth (manylion yswiriant ac ati)
  • Dillad sbâr a blancedi
  • Arian parod / cardiau credyd
  • Allweddi (Tŷ/Car)
  • Gofynion dietegol arbennig
  • Anifeiliaid anwes gyda thennyn / cludwyr / basgedi

Cyn i chi adael, gwnewch yn siŵr bod yr holl offer wedi'u diffodd a bod y tŷ wedi'i ddiogelu.

Diwygiwyd Diwethaf: 25/03/2025
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Rheoli Argyfyngau
Ffôn: 01495 762200

Nôl i’r Brig