Beth i'w wneud mewn argyfwng
Mewn argyfwng, ceisiwch aros yn ddigyffro a gwneud y canlynol:
- Os oes bygythiad uniongyrchol i fywyd, ffoniwch 999 a gofynnwch am gymorth gan y Gwasanaethau Brys.
- Ceisiwch wybodaeth gan y Gwasanaethau Brys yn lleoliad y digwyddiad neu drwy'r teledu a'r radio lleol.
- Galwch ar eich cymdogion, yn enwedig y rhai hynny sy'n anabl neu'n oedrannus y mae'n bosibl na fyddant yn ymwybodol o'r sefyllfa.
- Cofiwch y gallech gael eich cynghori i adael eich cartref neu aros yn eich cartref. Dylech bob amser geisio cyngor a gorchmynion gan y Gwasanaethau Brys.
- Os oes angen i chi adael eich cartref, cofiwch fynd â rhai pethau penodol gyda chi fel meddyginiaeth, bwyd babanod ac ati.
- Os oes unrhyw un wedi'i anafu, rhowch Gymorth Cyntaf nes bod cymorth meddygol proffesiynol yn cyrraedd.
- Os yw'n ddiogel gwneud hynny, ewch i weld a oes unrhyw ddifrod yn eich cartref, gan gynnwys tanau, gollyngiadau ac ati, a byddwch yn barod i ddiffodd y cyflenwadau trydan, nwy neu ddŵr.
- Os oes perygl o ollyngiad nwy neu ffrwydriad arall, peidiwch â throi unrhyw switshis trydan ymlaen, goleuo canhwyllau na chynnau matsis.
Os oes argyfwng ac y gofynnwyd i chi aros gartref, ewch i mewn gan gau'r holl ddrysau a ffenestri, a chau unrhyw awyrellau nad ydynt yn hanfodol.
Gwrandewch ar orsafoedd teledu neu radio lleol i gael mwy o wybodaeth a chyngor.
Teledu a Radio Lleol
Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Nôl i’r Brig