Cyngor ar lifogydd

Mae gan wefan Cyfoeth Naturiol Cymru gyfarwyddyd am lifogydd i gartrefi, busnesau, ffermydd, ysgolion, a chymunedau, a rhagolwg llifogydd 5 diwrnod. 

Os ydych chi’n bryderus y gallai eich eiddo ddioddef llifogydd, cymerwch y camau canlynol:   

Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n barod

  • Gwiriwch y perygl o lifogydd yn eich ardal a chofrestrwch i dderbyn rhybuddion llifogydd yma
  • Gwiriwch fod eich dogfennau yswiriant yn gyfredol a'ch bod wedi'ch yswirio'n ddigonol rhag ofn y bydd llifogydd
  • Ceisiwch storio pethau gwerthfawr, dogfennau pwysig ac eitemau o werth personol mewn cwpwrdd uchel neu i fyny'r grisiau 
  • Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwybod ble a sut i ddiffodd eich cyflenwadau nwy, trydan a dŵr
  • Ystyriwch brynu bagiau tywod neu fyrddau llifogydd i gyfeirio dŵr i ffwrdd o'ch eiddo os yw'r perygl o lifogydd yn uchel yn eich ardal

Bagiau tywod

Nid oes unrhyw ofyniad statudol i awdurdodau lleol ddarparu bagiau tywod, serch hynny, byddwn yn cynorthwyo lle gallwn ar sail blaenoriaeth.

Gallwch brynu bagiau y gellir eu llenwi â thywod.

Os ydych chi'n derbyn rhybudd llifogydd 

  • Symudwch bethau gwerthfawr i fyny'r grisiau, cymerwch ofal o anifeiliaid anwes a'u symud i le diogel. Os gallwch, symudwch unrhyw gerbydau i dir uwch ac unrhyw eitemau eraill i le diogel
  • Rhybuddiwch eich cymdogion
  • Os oes gennych chi fagiau tywod neu fyrddau llifogydd, rhowch nhw yn eu lle
  • Byddwch yn barod i ddiffodd cyflenwadau nwy a thrydan
  • Os yw llifogydd yn debygol o ddigwydd ar ôl iddi dywyllu, paratowch tra bod gennych olau dydd o hyd

Diogelwch dŵr llifogydd

  • Gall llifogydd ladd. Peidiwch â cherdded na gyrru trwy ddŵr llifogydd.  Gall hyd yn oed dŵr bas iawn sy'n llifo'n gyflym eich taro i’r llawr a bydd dwy droedfedd o ddŵr yn codi’ch car
  • Mae dŵr llifogydd yn aml wedi'i halogi â chemegau a charthffosiaeth felly osgowch y dŵr gymaint ag sy’n bosibl, a gofynnwch am gyngor meddygol os ydych wedi bod mewn cysylltiad â dŵr llifogydd
  • Peidiwch byth â cheisio nofio trwy ddŵr llifogydd. Nid yn unig y gallai'r dŵr fod wedi'i halogi ond gallech gael eich ysgubo i ffwrdd neu eich taro gan wrthrychau yn dŵr

Glanhau

  • Cysylltwch â llinell gymorth brys eich cwmni yswiriant a chymerwch gyngor ar yr hyn y dylech ei wneud
  • Pan fydd yn ddiogel, awyrwch eich tŷ trwy agor drysau a ffenestri ond byddwch yn ymwybodol o ddiogelwch
  • Cysylltwch â'ch cwmnïau nwy, trydan a dŵr fel y gellir profi cyflenwadau cyn i chi eu dechrau eto
  • Cymerwch gyngor gan eich cwmni yswiriant bob amser a dewch i wybod beth ddylech chi ei wneud nesaf.  Byddant fel arfer yn anfon aseswr colledion i asesu unrhyw ddifrod i'r eiddo a'i gynnwys

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r tîm Rheoli Argyfwng trwy civilcontingencies@torfaen.gov.uk 

Diwygiwyd Diwethaf: 25/03/2025
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Rheoli Argyfyngau
Ffôn: 01495 762200
E-bost: civilcontingencies@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig