Rôl Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Beth yw rôl Gwasanaeth Rheoli Argyfyngau Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen?
- Mae Gwasanaeth Rheoli Argyfyngau Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn gallu cynnig cyngor cyffredinol ar Barhad Busnes a Rheoli Risg.
- Gallwn hefyd roi gwybodaeth am ffynonellau ar gyfer cyngor a/neu gymorth mwy penodol.
- Ni allwn baratoi eich cynlluniau ar eich cyfer gan mai chi sy'n adnabod eich busnes a'r prosesau critigol.
- Rydym yn cynnig cyngor yn rhad ac am ddim fel arfer.
Y Broses Parhad Busnes
- Deall eich busnes a'r amcanion busnes allweddol
- Nodi gweithgareddau allweddol a'r staff sy'n gweithio yn y meysydd hynny
- Nodi pwyntiau unigol o fethiant
- Nodi'r bygythiadau posibl
- Asesu'r risg yn fewnol ac yn allanol
- Cyfrifo'r effaith
- Adolygu'r canlyniadau
- Cynllunio ar gyfer lleihau'r tebygolrwydd neu leihau'r effaith
- Hyfforddi eich staff
- Ymarfer y cynllun
- Archwilio'r canlyniadau a'u hadolygu'n rheolaidd
- Pa rai o'ch gwasanaethau critigol fyddai dan fygythiad pe byddai eich cyfleuster yn cael ei wacáu am wythnos/mis gyda phob mynediad wedi'i wrthod?
- Sawl aelod o staff fyddai eu hangen i gyflawni tasgau critigol a sut byddech chi'n darparu ar eu cyfer?
- Sut byddech chi'n parhau i weithredu pe byddai nifer fawr o staff yn absennol oherwydd salwch, e.e. pandemig ffliw?
- A oes gennych chi adeilad arall i weithio ynddo'n effeithiol? A yw'n ddigonol? A all staff weithio o gartref?
- A oes angen mynediad arnoch at wasanaethau nad ydynt ar gael ar hyn o bryd yn eich safle dros dro?
- A ydych chi'n defnyddio unrhyw feddalwedd arbennig neu ddeunydd ysgrifenedig fel ffurflenni? Am ba mor hir y gallwch chi ymdopi hebddynt, a pha mor hir y byddai'n ei gymryd i ailgyflenwi eich stoc?
Dylai eich cynllun ateb pob un o'r cwestiynau uchod ac eraill.
Diwygiwyd Diwethaf: 11/02/2022
Nôl i’r Brig