Canllawiau Parhad Busnes pan fydd Prinder Tanwydd
Mae trefniadau effeithiol ar gyfer parhad busnes yn hanfodol i sefydliadau er mwyn sicrhau eu bod yn medru parhau i ddarparu’r gwasanaethau sydd o flaenoriaeth ac yn y tymor hirach, parhau i weithredu pe byddai digwyddiad mawr yn tarfu ar y byd busnes.
Fe wnaeth y protestiadau tanwydd yn 2000 arwain at brinder tanwydd helaeth ac yn fwy diweddar yn haf 2008 tarfwyd ddwywaith ar gyflenwadau tanwydd lleol yn y DU yn dilyn gweithredu diwydiannol gan weithwyr yn y diwydiant ynni. I nifer o sefydliadau, fe wnaeth y fath ddigwyddiadau amlygu effaith y fath amhariad ar gyflenwadau tanwydd ar weithgareddau busnes arferol eu busnesau.
Yn dilyn y digwyddiadau hyn a chanlyniadau Arolwg o Allu Cenedlaethol 2008 a oedd yn awgrymu y byddai sefydliadau yn ei chael hi’n anodd cyflawni eu gweithgareddau pwysig pe amharwyd ar gyflenwadau olew a thanwydd dros gyfnod o ddeng diwrnod, mae Swyddfa’r Cabinet a’r Adran Ynni a Newid Hinsawdd wedi cyhoeddi canllaw byr i gynorthwyo sefydliadau sydd yn cynllunio ar gyfer y fath amhariadau.
Mae canllawiau ar Reoli Parhad Busnes pan fydd Prinder Tanwyddar gael gan Swyddfa'r Cabinet.
Diwygiwyd Diwethaf: 11/02/2022
Nôl i’r Brig