Rheoli Risg Gorfforaethol
Beth yw Rheoli Risg?
Mae rheoli risg yn ymwneud â gwneud y mwyaf o gyfleoedd (gwneud y penderfyniadau cywir) a chyflawni amcanion pan fydd y penderfyniadau hynny wedi'u gwneud.
Rheoli Risg yn Nhorfaen
Mae pob sefydliad yn wynebu risgiau neu rwystrau rhag cyflawni eu hamcanion. Er mwyn i'r cyngor wireddu ei weledigaeth o Dorfaen fel cymuned fodern lwyddiannus a chydlynol, rydym o'r farn ei bod yn hanfodol:
- Deall natur y risgiau sy'n ein hwynebu
- Bod yn ymwybodol o raddau'r risgiau hynny
- Nodi lefel y risg yr ydym yn barod i'w derbyn
- Cydnabod ein gallu i reoli a lleihau risgiau
- Cymryd camau lle y bo'n briodol
I gael mwy o wybodaeth am Reoli Risg yn Nhorfaen, edrychwch ar y canlynol:
Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Nôl i’r Brig