Gwasanaeth Addysg i Deithwyr
Mae Gwasanaeth Addysg i Deithwyr Torfaen yn darparu cymorth mewn ysgolion i gynorthwyo disgyblion Sipsiwn Roma Teithwyr a'u hysgolion.
Mae'r cymorth yn cynnwys:
- Gweithio gyda theuluoedd a meithrinfeydd i gefnogi plant mewn addysg blynyddoedd cynnar
- Cefnogi’r plant i drosglwyddo i ysgolion
- Gweithio gyda grwpiau bach neu unigolion mewn ysgolion
- Datblygu llwybrau dysgu priodol ar gyfer disgyblion Blynyddoedd 10 ac 11 ac mewn addysg bellach
- Darparu adnoddau sy'n adlewyrchu diwylliant Teithwyr
- Codi ymwybyddiaeth o ddiwylliant a ffordd o fyw Sipsiwn Teithwyr
- Cymorth mentora
Gall ysgolion a theuluoedd ddefnyddio’r gwasanaeth.
Manylion Cyswllt
Lynne Robinson
Ffôn: 01495 762080/ 07980288362
E-bost: lyn.robinson@torfaen.gov.uk
Diwygiwyd Diwethaf: 28/01/2025
Nôl i’r Brig