Cynlluniau gofal iechyd
Efallai y bydd angen cynllun gofal iechyd ar eich plentyn os oes ganddo gyflwr meddygol.
Mae cynlluniau gofal iechyd yn cynnwys gwybodaeth gan rieni, gweithwyr iechyd proffesiynol, nyrsys ysgol a gweithwyr proffesiynol iechyd i sicrhau bod plant yn gallu manteisio i'r eithaf ar eu haddysg.
Bydd y cynlluniau'n ystyried unrhyw hyfforddiant penodol y bydd ei angen ar staff yr ysgol, fel rhoi meddyginiaeth neu ymateb i argyfwng meddygol, yn ogystal ag unrhyw addasiadau y gallai fod eu hangen ar eich plentyn.
Caiff cynlluniau eu hadolygu gan yr ysgol, gyda gweithwyr iechyd proffesiynol perthnasol o leiaf unwaith y flwyddyn neu'n gynt os bydd anghenion meddygol y plentyn wedi newid.
Os oes gan eich plentyn broblemau symudedd, bydd cynllun codi a chario unigol hefyd yn cael ei gwblhau.
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch ag ysgol eich plentyn neu dîm Anghenion Dysgu Ychwanegol y cyngor ar AdditionalLearningNeeds@torfaen.gov.uk
Diwygiwyd Diwethaf: 28/01/2025
Nôl i’r Brig