Gwersi gartref
Mae gwersi gartref yn cefnogi plant a phobl ifanc o oedran ysgol statudol nad ydynt yn gallu cael mynediad i addysg prif ffrwd oherwydd rhesymau meddygol neu seicolegol. Bydd angen darparu tystiolaeth feddygol i gefnogi unrhyw geisiadau.
Darperir cymorth addysgol gan ysgol y plentyn. Mae’r plentyn yn parhau ar gofrestr yr ysgol. Mae panel Anghenion Dysgu Ychwanegol yn penderfynu a oes angen i ddisgybl gael gwersi gartref.
Mae gwersi gartref yn wahanol i addysg ddewisol yn y cartref, sydd hefyd yn cael ei alw’n ‘dysgu gartref’, sef pan fydd rhieni yn tynnu eu plentyn o addysg brif ffrwd ac yn cymryd cyfrifoldeb cyfreithiol ac ariannol am ei addysg.
Beth allwch chi ei ddisgwyl os oes angen gwersi gartref ar eich plentyn:
- Cynllun addysg sy’n cael ei ddarparu gan yr ysgol
- Gwersi ar lein sy’n cael ei ddarparu gan Uned Cyfeirio Disgyblion Torfaen
- Y dewis i gael y gwersi mewn canolfan os oes angen
- Cysylltiadau ag asiantaethau a all helpu'ch plentyn i ailintegreiddio i addysg prif ffrwd
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Gwasanaeth ADY a Chynhwysiant ar AdditionalLearningNeeds@torfaen.gov.uk
Diwygiwyd Diwethaf: 28/01/2025
Nôl i’r Brig