Anawsterau Dysgu Penodol
Mae nifer o gyflyrau niwrolegol sy'n effeithio ar allu plant i ddarllen, ysgrifennu neu brosesu gwybodaeth.
Mae'r rhain yn cynnwys dyslecsia, dyspracsia, dyscalcwlia a dysgraffia.
Nid yw Anawsterau Dysgu Penodol yn effeithio ar ddeallusrwydd y plentyn ond efallai y bydd angen iddynt ddysgu mewn ffordd wahanol neu gael cymorth ychwanegol.
Mae gan Dorfaen athro arbenigol sy'n rhoi cyngor a chefnogaeth i ysgolion i ddiwallu anghenion llythrennedd eu disgyblion.
Bydd yr athro Anawsterau Dysgu Penodol ar gael i gwrdd â staff yr ysgol i drafod y plant sy'n derbyn cymorth ychwanegol gan yr ysgol, i helpu i adolygu cynnydd a threfniadau cymorth.
Gellir cefnogi disgyblion a nodwyd mewn sawl ffordd:
- gweithio mewn grwpiau gyda Chynorthwyydd Cymorth Dysgu (CCD) gyda chefnogaeth cyngor ac arweiniad gan yr athro arbenigol.
- defnyddio deunyddiau gwahaniaethol a strategaethau penodol yn yr ystafell ddosbarth
Os oes gennych ofidion am sgiliau llythrennedd eich plentyn, siaradwch â'i athro neu gydlynydd anghenion dysgu ychwanegol yr ysgol..
Diwygiwyd Diwethaf: 28/01/2025
Nôl i’r Brig