Cymorth awtistiaeth
Mae gennym swyddog cymorth awtistiaeth sy'n gweithio gyda rhieni, ysgolion a gweithwyr proffesiynol eraill i gefnogi disgyblion sydd â diagnosis o anhwylder ar y sbectrwm awtistiaeth, neu yn y broses o gael diagnosis.
Mae’n darparu:
- Cyngor un i un i rieni ac ysgolion
- Sesiynau coffi a sgwrsio mewn ysgolion a grwpiau rhieni lleol
- Hyfforddiant i deuluoedd plant sydd â diagnosis neu heb ddiagnosis awtistiaeth
- Cefnogaeth a hyfforddiant i ysgolion, gan gynnwys staff arlwyo
- Adnoddau ar gyfer ysgolion, rhieni a gweithwyr proffesiynol.
Gellir gwneud atgyfeiriadau drwy ysgol neu weithiwr proffesiynol.
Fel arall, gall rhieni a gofalwyr gysylltu heb atgyfeiriad, ar AdditionalLearningNeeds@torfaen.gov.uk
Diwygiwyd Diwethaf: 03/02/2025
Nôl i’r Brig