Gwasanaeth Cymorth Synhwyraidd a Chyfathrebu (SenCom)
Mae gwasanaeth rhanbarthol SenCom yn cael ei gynnal gan Gyngor Torfaen sy'n gweithio'n rhanbarthol gyda chynghorau Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen.
Mae'r gwasanaeth yn cynnwys tri thîm:
Tîm Ymyrraeth Cyfathrebu (ComIT)
Mae ComIT yn wasanaeth ysgol sy'n gweithio i alluogi ysgolion i ganfod a chefnogi plant a phobl ifanc ag Anghenion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu (SLCN).
Nod ComIT yw diwallu anghenion ychwanegol plant a phobl ifanc sydd â diagnosis anghlinigol a'r angen sylfaenol am leferydd, iaith a chyfathrebu pan fo'r angen hwnnw'n effeithio'n ddifrifol ar allu’r plentyn i ddysgu. Mae'r tîm yn cynnwys athrawon ymgynghorol, therapyddion lleferydd ac iaith a chynorthwywyr addysgu arbenigol.
Mae ceisiadau am gefnogaeth i ddisgyblion yn cael eu derbyn yn uniongyrchol gan ysgolion.
Gwasanaeth Cymorth i Blant a Phobl Ifanc B/byddar
Mae'r Gwasanaeth Cymorth i Blant a Phobl Ifanc B/byddar yn cynorthwyo pob plentyn a pherson ifanc sydd â lefel penodol o fyddardod, i gyflawni eu potensial i’r eithaf ac i gaffael y sgiliau angenrheidiol ar gyfer bywyd. Mae'r gwasanaeth yn cefnogi camau i’w cynnwys yn llwyddiannus mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar ac ysgolion. Mae'r tîm yn cynnwys Athrawon Cymwysedig Plant a Phobl Ifanc Byddar a Chynorthwywyr Addysgu Arbenigol.
Mae'r gwasanaeth yn ddeinamig ac yn annog cysylltiadau agos â'r cartref, yr ysgol ac asiantaethau eraill. Ein nod yw meithrin gallu mewn ysgolion i ddiwallu anghenion disgyblion a darparu cymorth â ffocws mewn ymateb i anghenion newidiol plant a phobl ifanc.
Gwneir y rhan fwyaf o atgyfeiriadau trwy weithwyr iechyd proffesiynol sy'n poeni am glyw plentyn neu berson ifanc. Yna cysylltir â Chydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol yr ysgol.
Y Gwasanaeth Nam ar y Golwg
Mae'r gwasanaeth yn darparu arbenigedd ac adnoddau i ysgolion i gefnogi disgyblion â nam ar eu golwg i’w galluogi i gael eu cynnwys yn llawn yn y dysgu. Mae sgiliau byw'n annibynnol a symudedd yn cael eu haddysgu gan arbenigwyr nam ar y golwg.
Mae’r Gwasanaeth Nam ar y Golwg yn gallu darparu ystod o wasanaethau mewn perthynas ag anghenion yr unigolyn. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â phlant a phobl ifanc sydd â nam ar eu golwg neu nam amlsynhwyraidd, rhieni, ysgolion, gwasanaethau addysg/gyrfaoedd ac asiantaethau meddygol i ddiwallu anghenion yr unigolyn fel y nodwyd drwy'r broses asesu.
Rydym yn croesawu ymholiadau ac atgyfeiriadau gan unrhyw un sy'n ymwneud â phlant a phobl ifanc a allai fod yn gofidio ynghylch y posibilrwydd o nam ar y golwg neu nam amlsynhwyraidd.
Atgyfeirio am asesiad gan Athro Cymwysedig Nam ar y Golwg a/neu Nam Amlsynhwyraidd.
I gysylltu â SenCom, ffoniwch 01633 648888 neu e-bostiwch sencom@torfaen.gov.uk
Diwygiwyd Diwethaf: 28/01/2025
Nôl i’r Brig