Uned Cyfeirio Disgyblion

Mae'r Uned Cyfeirio Disgyblion (UCD), ym Mhont-y-pŵl, yn darparu addysg i ddisgyblion ag anawsterau emosiynol ac ymddygiadol neu’r rhai sy’n cael eu hystyried yn ddisgyblion sy’n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS).

Nod yr uned yw darparu ymyrraeth gynnar a chymorth i helpu disgyblion i ddychwelyd i'w hysgol brif ffrwd.  

Cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol ysgol eich plentyn sy’n gyfrifol am atgyfeirio.  

Os ydych yn credu bod angen cymorth ar eich plentyn gan yr UCD, cysylltwch â'i athro neu’r cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol.  

Diwygiwyd Diwethaf: 28/01/2025
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Y Gwasanaeth Cynhwysiant
Ffôn: 01495 766929 or 01495 766968
E-bost: AdditionalLearningNeeds@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig