Cynllun Gwella Hawliau Tramwy Torfaen
Dan Adran 60 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, mae gofyn i bob awdurdod priffyrdd lleol gynhyrchu Cynllun Gwella Hawliau Tramwy (ROWIP) ar gyfer ei ardal. Wrth lunio'r cynllun hwn, mae gofyn i awdurdodau asesu i ba raddau mae'r rhwydwaith lleol o hawliau tramwy'n bodloni anghenion presennol y cyhoedd a'u hanghenion tebygol yn y dyfodol; pa gyfleoedd a ddarperir gan yr hawliau tramwy lleol i ymarfer a gwneud mathau eraill o hamdden awyr agored; i ba raddau y mwynheir yr hardal a hygyrchedd hawliau tramwy lleol i bobl fyddar neu phobl rannol ddall ac eraill sydd â phroblemau symudedd.
Cadarnhawyd y Cynllun Gwella Hawliau Tramwy yn 2008 ac fe'i defnyddiwyd yn llwyddiannus yn ddogfen gynnig am gyllid gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Os oes gennych unrhyw sylwadau am y ddogfen, anfonwch nhw at Fiona Ford, Swyddog Mynediad i Gefn Gwlad mewn e-bost i fiona.ford@torfaen.gov.uk.
Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Nôl i’r Brig