Hawliau Cofrestredig
Addasu’r Map Diffiniol
Mae pob Hawl Tramwy Cyhoeddus sydd wedi eu cofrestru yn cael eu cofnodi ar y “Map Diffiniol a Datganiad o Hawliau Tramwy Cyhoeddus”. Dogfen gyfreithiol yw hon, felly mae angen gorchymyn cyfreithiol cyn y gellir gwneud unrhyw newidiadau neu addasiadau i’r map.
Dargyfeirio neu Ddileu Llwybr
Er mwyn dargyfeirio neu newid trywydd llwybr, rhaid bod yr ymgeisydd (y tirfeddiannwr fel arfer) yn medru cynnig llwybr arall sydd yr un mor eang. Os oes angen dileu llwybr, rhaid i’r ymgeisydd brofi nad yw’r llwybr yn angenrheidiol i’r cyhoedd, nawr, neu yn y dyfodol. Bydd aelod o’r Tîm Mynediad yn cwrdd â’r ymgeisydd ar y safle i drafod pa mor addas yw’r llwybr arfaethedig neu’r cais i ddileu llwybr a darparu’r ffurflenni cais perthnasol. Codir tâl fel arfer i dalu costau prosesu’r gorchmynion cyfreithiol.
Yr hawl i gofrestru Hawliau Tramwy Cyhoeddus newydd
Mae’n bosibl cofrestru llwybrau newydd fel “llwybrau cyhoeddus” a’u hychwanegu at y Map Diffiniol. Yn aml, llwybrau yw’r rhain y mae pobl wedi eu defnyddio ers nifer o flynyddoedd ond nad ydynt wedi eu cynnwys yn y Map Diffiniol a’r Datganiad ym 1967. Os holir cwestiwn ynghylch hawl y cyhoedd i ddefnyddio’r llwybr, ee am ei fod wedi blocio, mae yna broses cyfreithiol y gall y Tîm Mynediad ei dilyn i weld a dylid ei ychwanegu i’r Map Diffiniol.
I ychwanegu llwybr newydd, rhaid i ymgeisydd fod yn fodlon cael tystiolaeth a dangos bod y cyhoedd wedi defnyddio’r llwybr yn barhaus, fel arfer dros 20 mlynedd a heb unrhyw rwystr gan y tirfeddianwyr. Bydd y tîm mynediad yn rhoi cyngor ar fynd ymlaen â’r cais a byddant yn cwrdd â’r ymgeisydd ar y safle i edrych ar y llwybr. Am fod ychwanegu llwybr newydd i’r rhwydwaith hawliau tramwy yn fanteisiol i’r cyhoedd, nid chodir tâl am brosesu’r gorchymyn.
Gorchmynion Gwahardd Dros Dro
Dargyfeirio llwybrau neu eu cau yw'r rhain a hynny er mwyn diogelu’r cyhoedd tra bod gwaith yn mynd rhagddo yng nghyffiniau neu ar y llwybrau tramwy cyhoeddus. Y cyfnod hwyaf ar gyfer gorchymyn dros dro yw 6 mis; os bydd angen cyfnod ymestynnol ar yr ymgeisydd bydd angen iddynt wneud cais i Lywodraeth Cymru. Codir tal fel arfer i dalu costau prosesu’r gorchmynion hyn.
Os oes gennych ddiddordeb i gofrestru hawl tramwy newydd neu os ydych yn dymuno dargyfeirio neu ddileu llwybr sydd eisoes yn bodoli, cysylltwch â’r Tîm Mynediad i gael cyngor.
Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Nôl i’r Brig