Arwyddion a Hysbysiadau
Mynegbyst a chyfeirbwyntiau
Bydd gan hawliau tramwy gwledig fynegbost pren lle byddant yn gadael ffordd gyhoeddus. Bydd y mynegbost yn esbonio'r math o hawl tramwy yn ogystal â'i gyfeiriad. Gallai fod cyfeirbwynt hefyd ar rai llwybrau er mwyn i chi ddilyn y llwybr yn haws.
Gallai fod mynegbost metel ar lwybrau trefol neu, os yw'n amlwg bod y llwybr yn un cyhoeddus, efallai na fydd arwydd arno.
Ein cyfrifoldeb ni yw sicrhau bod arwyddion priodol ar hawliau tramwy cyhoeddus.
Arwyddion neu hysbysiadau camarweiniol
Ni ddylid codi ar hawliau tramwy arwyddion na hysbysiadau sy'n camarwain defnyddwyr neu sy'n annog y cyhoedd i beidio â'u defnyddio. Gall fod yn drosedd gwneud hyn.
Hysbysiadau cyfreithiol
Weithiau mae angen i ni roi gwybod i bobl am newidiadau, neu am newidiadau arfaethedig i hawliau tramwy. Peidiwch â gwaredu'r hysbysiadau hyn.
Cofrestr o geisiadau a wneir dan adran 53(5) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 i addasu'r Map Diffiniol
Mae gofyn bellach i awdurdodau lleol gadw cofrestr o'r ceisiadau a wneir i newid y Map Diffiniol o hawliau tramwy cyhoeddus. Bydd y gofrestr yn helpu i gynyddu gwybodaeth ymhlith tirfeddianwyr, defnyddwyr hawliau tramwy a'r cyhoedd cyffredinol am geisiadau a allai arwain at newidiadau yn y Map Diffiniol.
Mae ein cofrestr yn cael ei datblygu o hyd, ond bwriadwn gael cyfleuster chwilio er mwyn ichi ddod o hyd i geisiadau sydd o ddiddordeb i chi. Yn y cyfamser, rhestrir y ceisiadau yn nhrefn plwyfi.
Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Nôl i’r Brig