Cerbydau yng nghefn gwlad
Efallai y byddwch yn cwrdd â cherbydau sy'n cael eu gyrru:
- Yn gyfrifol ar gilffordd sydd ar agor i unrhyw draffig
- Gan rywun sydd â hawl breifat
- Yn anghyfreithlon/yn anghyfrifol
Heblaw mewn ambell sefyllfa, mae'n dramgwydd troseddol gyrru car neu feic modur ar lwybr troed, llwybr ceffylau neu gilffordd gyfyngedig.
Os hoffech yrru ar hyd cilffordd sydd ar agor i unrhyw draffig
- Dilynwch y cod cefn gwlad
- Sicrhewch nad yw'r cilffyrdd yr hoffech eu defnyddio yn destun gorchmynion rheoleiddio traffig
- Rhaid bod eich cerbyd yn gyfreithlon ar gyfer y ffordd (gyda threth, MOT ac ati)
- Osgowch lwybrau sy'n fregus mewn tywydd gwlyb
- Rhowch wybod am unrhyw achosion o ddefnydd anghyfrifol neu anghyfreithlon
Hawl Preifat i Gerbydau
Mae gan nifer o dirfeddianwyr neu denantiaid hawl i gael hawl preifat i fynd â’u cerbydau ar hyd llwybr troed neu lwybr ceffyl. Mae hyn yn eu caniatáu hwythau, ac unrhyw un y maen nhw’n eu gwahodd i’w heiddo, i yrru ar hyd y llwybrau hyn. Os oes gennych hawl preifat i fynd â’ch cerbyd ar hyd llwybr tramwy cyhoeddus, nodwch nad yw pobl yn disgwyl cwrdd â cherbydau ar lwybrau troed, llwybrau ceffylau a chilffyrdd cyfyngedig, felly teithiwch ar gyflymder diogel a chofiwch eich bod yn ystyried defnyddwyr eraill.
Mae’n drosedd difrodi wyneb hawl tramwy cyhoeddus.
Yn ôl pob tebyg, nid yw pobl yn disgwyl cwrdd â cherbydau ar lwybrau troed, llwybrau ceffylau a chilffyrdd cyfyngedig, felly teithiwch yn ddiogel o araf, a chan ystyried eraill.
Mae'n drosedd difrodi wyneb hawl tramwy gyhoeddus.
Defnydd anghyfreithlon neu anghyfrifol
Os ydych wedi dod ar draws enghraifft o ddefnyddio cerbydau'n anghyfreithlon yng nghefn gwlad, mae'n fater i'r heddlu. Rhowch wybod i'r heddlu, gan nodi ble a phryd y digwyddodd y drosedd. Gofynnwch iddynt wneud cofnod o'r drosedd. Y rhif achos neu'r 'log' fydd y rhif angenrheidiol i unrhyw un sydd am ddilyn y mater.
Os yw defnydd anghyfrifol o gilffordd yn achosi problemau, rhowch wybod inni.
Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Nôl i’r Brig