Rhandiroedd
Mae garddio rhandiroedd yn darparu ffynhonnell fforddiadwy o ffrwythau a llysiau sy'n rhan hanfodol o ddiet iach, ac mae'n weithgaredd werth chweil sy'n gwella ansawdd bywydau pobl.
Ni ellir gwadu y gall yr ymdrech gychwynnol a allai fod ei angen i gyrraedd y safon angenrheidiol i drin y tir ar lain rhandir fod yn eithaf anodd, fodd bynnag, unwaith y gwneir hynny, mae manteision tyfu eich cynnyrch eich hun a'r manteision i'r iechyd yn llawer mwy na'r holl ymdrechion angenrheidiol.
Dyma rhai o'r buddion sy'n gysylltiedig â garddio rhandir:
- Ffynhonnell fforddiadwy o fwyd o ansawdd da
- Gweithgaredd hamdden corfforol sy’n cynnig manteision i’r iechyd
- Bod yn rhan o gymuned y rhandir a rhannu’r cyfoeth o wybodaeth gyda gwahanol grwpiau oedran
Nid yw pawb sy'n byw yn Nhorfaen yn ddigon ffodus i gael gardd digon mawr i dyfu ffrwythau a llysiau. Gall unrhyw un sy'n byw yn Nhorfaen ystyried gwneud cais am randir, fodd bynnag, mae yna alw uchel am randiroedd ac mae'n siŵr y bydd rhestr aros.
Os bydd safle neu ardal o fewn safle yn cael ei ystyried fel un addas, dyrennir y ddarpariaeth i'r rheini sydd ag anableddau. Bydd ysgrifennydd y safle yn ystyried anghenion unigol y person.
Mae 41 o safleoedd rhandiroedd yn Nhorfaen sydd yn cael eu hunan-rheoli dan Gytundeb Rheoli Datganoledig. Maent yn cael eu rheoli o dan un o'r ddwy Gymdeithas Rhandiroedd a ganlyn:
- Cymdeithas Rhandiroedd De Cwmbrân sy’n rheoli 21 o safleoedd rhandiroedd yn Ne’r Fwrdeistref
- Cymdeithas Rhandiroedd y Cwm Dwyreiniol sy’n rheoli 20 o safleoedd rhandiroedd yng Ngogledd y Fwrdeistref
Mae’r safleoedd a’r ardaloedd y maen nhw wedi eu lleoli ynddynt fel a ganlyn:
Rhandiroedd
| Cymdeithas De Cwmbrân | Cymdeithas y Cwm Dwyreiniol | 
|---|
| Bryn-Ysgawen | Croesyceiliog | Poplar Avenue | Y Dafarn Newydd | 
| Bryn Gomer | Croesyceiliog | Greenway | Tref Gruffydd | 
| Woodland Road | Croesyceiliog | ST Mary’s | Tref Gruffydd | 
| Afon Terrace | Croesyceiliog | Stafford Road | Tref Gruffydd | 
| Greywater | Llanyrafon | Blaendare Road | Pont-y-pŵl | 
| Millwater | Llanyrafon | Lower Park Gardens | Pen-y-garn | 
| Lightwood | Cae Derw | Pen-y-garn 1 | Pen-y-garn | 
| Heol y De | Llantarnam | Pen-y-garn 2 | Pen-y-garn | 
| Trellech Close | Hen Gwmbrân | Ffordd Ger y Coed 1 | Trefddyn | 
| Clos Talgarth | Hen Gwmbrân | Ffordd Ger y Coed 2 | Trefddyn | 
| Coed Efa 1 | Coed Efa | Penywaun | Penywaun | 
| Coed Efa 2 | Coed Efa | Fowlers Field | Waunfelin | 
| Coed Efa 3 | Coed Efa | Grove Road | Pontnewynydd | 
| Coed Efa 4 | Oaksford | Lewis Field | Pontnewynydd | 
| Tŷ Canol | Fairwater | Mount Pleasant | Pontnewynydd | 
| Dôl Werdd | Dôl Werdd | Pentwyn | Pentwyn | 
| Tŷ Gwyn | Dôl Werdd | Garndiffaith | Garndiffaith | 
| Maendy Farm | Cwmbrân Uchaf | Williams Field | Cwmafon | 
| Tŷ Newydd | Pontnewydd | Heol Llanover | Blaenafon | 
| Clarke Avenue | Pontnewydd | Castle Street | Blaenafon | 
| Stry y Nant | Pontrhydyrun |  |  | 
Am beth mae’r Cymdeithasau Rhandiroedd yn gyfrifol?
Mae pob Cymdeithas yn gyfrifol am reoli’u safleoedd priodol o ddydd i ddydd. Dyma rhai o’u cyfrifoldebau:
- Rheoli’r gyllideb
- Cynnal rhestri aros
- Gosod lleiniau
- Cyhoeddi Cytundebau Tenantiaeth Blynyddol
- Casglu rhent
- Cynnal/creu gwelliannau ar eu safleoedd
- Monitro a rheoli’r defnydd o ddŵr
- Delio ag anghydfodau’n ymwneud â rhandiroedd
- Terfynu tenantiaethau
Faint yw’r rhent am lain ar randir?
Mae ffioedd safle rhandiroedd Torfaen yn cynnwys ffi aelodaeth, cost fesul perc / metr sgwâr ac yswiriant.
Cytundeb Tenantiaeth
Mae'n ofynnol i bob Tenant ar randir i dalu'r rhent ac arwyddo Cytundeb Tenantiaeth bob blwyddyn. Mae'r Cytundeb Tenantiaeth yn cynnwys y prif reolau y mae angen i Denant rhandir lynu atynt, fodd bynnag, dylid bob amser darllen Cytundeb Tenantiaeth ar y cyd â Llawlyfr Ysgrifenyddion y Safle
Llawlyfr Rhandiroedd
Mae'r Llawlyfr Rhandiroedd yn cynnwys y rheolau a safonau y mae'n ofynnol i bob safle rhandiroedd a thenantiaid lynu atynt, mae'n cynnwys y weithdrefn anghydfod. A fyddech cystal â gweld Llawlyfr Rhandiroedd a all fod yn destun adolygiad.
Noder: Cyfrifoldeb y Tenant yw ymgyfarwyddo â thermau ac amodau eu Cytundeb Tenantiaeth a Llawlyfr Rhandiroedd .
Sut mae'r holl Safleoedd Rhandiroedd yn cael eu rheoli?
Mae'r holl safleoedd rhandiroedd yn cael eu rheoli dan Gytundeb Rheoli Datganoledig dan un o ddau o'r cymdeithasau a grybwyllwyd uchod y cyfeirir atynt fel arall fel y Grŵp Cymdeithas Rhandiroedd sy'n cynnwys y canlynol:
- Ysgrifennydd y Gymdeithas
- Cadeirydd y Gymdeithas
- Trysorydd y Gymdeithas
- Aelodau Cyfetholedig
Mae Grŵp y Gymdeithas yn gyfrifol am reoli'r holl safleoedd rhandiroedd y maen nhw'n gyfrifol amdanynt o ddydd i ddydd. Mae cyfarfodydd yn cynnal eu cynnal bob chwe mis rhwng grwpiau'r cymdeithasau, y mae iddynt Gadeirydd a Chynghorydd, a Swyddog Rhandiroedd y Cyngor.
Noder: Oherwydd bod y Cymdeithasau yn Rheoli eu Hunain, nid fydd Swyddog Rhandiroedd y Cyngor yn cymryd rhan mewn unrhyw anghydfod. Gweler Llawlyfr Rhandiroedd - "Trefn Anghydfodau".
Sut mae safle rhandiroedd unigol yn cael ei rheoli?
Mae gan bob safle Ysgrifennydd Safle, Trysorydd ac Aelodau Pwyllgor a etholwyd yn ddemocrataidd. Mae pob Tenant yn atebol i'r bobl hyn.
Ceir safonau ac ymddygiad penodol y mae'n rhaid eu bodloni. Bydd ysgrifennydd y safle neu bwyllgor o aelodau yn gallu rhoi arweiniad ar bob agwedd ar reolau'r safle ac ati. Unwaith eto, mae'n gyfrifoldeb ar y Tenant i sicrhau ei fod ef neu hi yn gwbl ymwybodol o'r rheolau yn y Cytundeb Tenantiaeth, Llawlyfr Rhandiroedd neu unrhyw reolau unigol ychwanegol sydd gan y safle.
Mae'n bwysig nodi y gallai torri unrhyw rhai o'r uchod arwain at derfynu'r Denantiaeth ar unwaith a gellir gofyn i'r Tenant adael y safle ar unwaith.
Sut ydw i’n gwneud cais am randir?
Gallwch wneud cais drwy ddilyn unrhyw rhai o’r opsiynau a ganlyn:
- Ymweld â’r safle neu’r safleoedd o’ch dewis a gofyn i siarad ag Ysgrifennydd y Safle fydd yn cymryd eich manylion a chysylltu â chi pan fydd rhandir ar gael.
- E-bostio oliver.james@torfaen.gov.uk neu ffonio’r 07980 682282. Bydd angen i chi rhoi’r wybodaeth a ganlyn:
- Enw llawn
- Yr ardal o’ch dewis neu
- Enw’r safle neu safleoedd o’ch dewis
- Rhif ffôn
Bydd y manylion uchod yn cael eu rhoi i’r gymdeithas rhandiroedd berthnasol sy’n rheoli’r rhestr aros a byddant yn cysylltu â chi pan fydd llain ar gael.
Faint o amser fydd angen i mi aros am randir?
Nid yw'n bosibl darparu amser o ran pryd y bydd rhandir ar gael. Bydd hyn yn dibynnu ar ba bryd bynnag y bydd tenant yn rhoi'r gorau i'w lain.
Yn ogystal â'r uchod, os byddwch yn dewis mwy nag un safle, byddwch yn fwy tebygol o gael llain.
Sut allaf ddod yn aelod o Bwyllgor y Safle neu Grŵp y Gymdeithas?
Dros amser, mae rhai tenantiaid yn dod yn angerddol dros y safle a sut y mae'n cael ei redeg ac felly fe fyddant yn teimlo yr hoffent gyfrannu at ddatblygu a rhedeg y safle. Dylid mynegi'r fath diddordeb i Ysgrifennydd y Safle neu'r Pwyllgor a fydd yn croesawu'r diddordeb. Bydd pob safle yn pleidleisio'n ddemocrataidd dros aelodau.
Yr un fydd y broses i unrhyw un sydd â diddordeb mewn dod yn aelod o Grŵp y Gymdeithas.
 Diwygiwyd Diwethaf: 28/10/2025 
 Nôl i’r Brig