CYBI Torfaen

HDRC Torfaen LogoRydym yn un o 30 Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd ar draws y DU a'r ail un yng Nghymru. 

Mae CYBI Torfaen yn rhan o'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal, sy’n cael ei letya gan Gyngor Torfaen.  

Bydd y tîm yn cynnal ymchwil a gwaith dadansoddi data helaeth, er mwyn deall pam fod gan rai pobl a chymunedau yn Nhorfaen iechyd meddwl a chorfforol gwael, a beth y gellir ei wneud i wella hynny. 

Dros y pum mlynedd nesaf, bydd y tîm yn: 

  • Defnyddio ymchwil a thystiolaeth i wneud penderfyniadau 
  • Cynnwys pobl leol mewn blaenoriaethau ar gyfer ymchwil i iechyd 
  • Cysylltu data â phenderfyniadau strategol 
  • Rhannu’r dysgu 
  • Gwerthuso effaith ac ymyriadau 

Mae CYBI Torfaen yn bartneriaeth rhwng Cyngor Torfaen, Prifysgol De Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â HDRC@torfaen.gov.uk  

Beth yw'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal? 

Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal yn ariannu ymchwil i iechyd a gofal cymdeithasol sy'n arwain y byd ac sy'n gwella iechyd a lles pobl ac yn hyrwyddo twf economaidd, ac mae’n galluogi ymchwil o’r fath ac yn ei ddarparu.  

Mae NIHR wedi dyfarnu £150m i 30 CYBI ar draws y DU. Nod y cyllid hwn yw rhoi’r capasiti a’r gallu i awdurdodau lleol i ymgymryd ag ymchwil i iechyd y cyhoedd, er mwyn mynd i'r afael â phenderfynyddion ehangach iechyd ac anghydraddoldebau iechyd. 

Tîm Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd (CYBI) Torfaen

HDRC Team

Rhes gefn, o'r chwith i'r dde:  Jordan Everitt (Cymrawd Ymchwil), Gareth Cooke (Pennaeth CYBI Torfaen), Rhiannon Bennett (Dylunydd Ymyrraeth).

Rhes ganol, o'r chwith i'r dde: Simon Read (Uwch Gymrawd Ymchwil), Hannah Wixcey (Dadansoddwr Data), Louise Davies (Gweinyddwr y Rhaglen)

Rhes waelod, o'r chwith i'r dde: Matthew Davies (Rheolwr Y Rhaglen), Sophie Griffiths (Swyddog Cynnwys ac Ymgysylltu â'r Gymuned), Amy Murray (Uwch Gymrawd Ymchwil)

Diwygiwyd Diwethaf: 01/04/2025
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

CYBI Torfaen

Ebost: HDRC@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig